MR. HUGH W. WILLIAMS. ALEXANDRIA, ALEXANDRIA COUNTY, VIRGINIA.

At eich rhestr o'r gwroniaid ag ydynt eisoes wedi eu croniclo ar golofnau y Cyfaill, yr ydym yn anfon un yn ychwanegol, sef Hugh H., mab i Mr. Hugh ac Elinor Williams, o'r Terfyn, Plwyf Llangybi, sir Gaernarfon.

Daeth Mr. H. H. Williams i'r wlad hon yn y flwyddyn 1858. Bu yn aros am ysbaid yn Nhalaeth New York. Symudodd oddiyno i Kansas, ac oddi yno drachefn i Dodgeville, Wisconsin. Yr oedd wedi ei ddwyn i fyny mewn teulu crefyddol, ond o herwydd anghyfleusderau crefyddol mewn ambell i gymydogaeth y bu ef yddi, yn nghyd a themtasiynau cysylltiedig a bywyd crwydrol-dyfod i gyffyrddiad ag arferion llygredig, a dylanwad afiachus cymdeithion gwageddus, a.y. yr oedd ei agweddiad yn bur baganaidd pan y daeth i Dodgeville - ni wyddai pa ddiwrnod ydoedd dydd yr Arglwydd!

Ond dechreuodd ddilyn moddion gras, trwy ba rai yn fuan yr effeithiwyd cryn gyfnewidiad arno - ymunodd ag eglwys y T. C. yn y lle - ymroddodd ar unwaith i lafur gyda chrefydd - ni wandawai ar "gig a gwaed" - daeth ar unwaith i ymarfer dyledswyddau cyhoeddus crefyddol; fel yn mhen ychydig wythnosau yr oedd yn synu pawb trwy ei brofiad a'i wybodaeth grefyddol.

Y bachgen difeddwl, ac wrth gwrs diwybodaeth; ac fel yr afradlon gynt, wedi treulio y cwbl, a hyd yn nod synwyr a deall o bethau crefyddol, - heb son am deimlad - y bachgen hwnw yn mhen ychydig amser yn dangos y fath hyddysgrwydd yn y Gwirionedd - y fath fedr i goffau, a'r fath yni i ddadleu addewidion Duw. Gwelsom, meddwn, yn y bachgen hwn, beth a all gras wneyd ar bechadur.

Yn Chwefror, 1862, ymunodd a'r fyddin gyda'r 2il Gatrawd o wyr meirch Wisconsin. Bu yn teithio yn galed trwy Missouri ac Arkansas, cafodd ei orddiwes gan afiechyd, a bu yn y Clafdy yn Helena, Arkansas, am dri mis, a chafodd ei ryddhau o'r gwasanaeth milwraidd yn mhen tua blwyddyn ar ol ymrestru.

Yn ei lythyrau at ei frawd a'i gyfeillion, ni cheid ganddo ef nemawr o hanesion am symudiadau milwraidd - helyntion a gorchestion y Gatrawd, a.y., ond byddai yn arllwys ei deimladau crefyddol - ansawdd ei galon a'i gydwybod - y mwynhad dedwydd a brofai weithiau yn ei fynwes - y gymdeithas felus a Duw yn ei Fab, ac yn enwedig yr addewidion.

Byddai rhyw addewid o'r Beibl ganddo yn wastad. Byddai ei lythyr yn debyg i rai o'r Salmau, gan Dafydd, neu lythyrau swynol Mrs. Ann Griffiths; ond wrth gofio mai mewn gwersyllfa filwraidd, mewn gwisg filwraidd, ac yn nghanol arfau dinystr y byddai yn ysgrifenu, yr oedd yn syndod fod y fath eneiniad ar ei feddwl. Gan gofio - y fath lythyrau a ysgrifenai 01iver Cromwell, onide, megys oddi rhwng y peleni!

Yr oedd ei eiddigedd dros achos y wladwriaeth yn gref; nis gallasai fod yn llonydd, a "thewi a son"; ar y fath adeg bwysig. Ail ymrestrodd i'r fyddin yn Chwefror, 1864, yn y 36ain Gatrawd o wyr traed. Wisconsin. Aeth y Gatrawd ymaith yn Mai diweddaf, at fyddin y Potomac. Cafodd ef ei glwyfo yn Coal Harbor, Virginia. Y dydd cyntaf o Fehefin, aeth pelen trwy gymal ei benelin - cymerwyd ef i'r Clafdy yn Alexandria - dyoddefodd lawer oddi wrth ei glwyf, yr oedd yn rhy wan i ymgynnal i dori ei fraich - cymerodd y cronic diarrhea, ac anhwylderau eraill afael ynddo, a gwthiasant ef i ffordd yr holl ddaiar, ar y 7fed o Hydref diweddaf, yn 28 mlwydd oed.
CYMYDOG.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ionawr 1865.