MR. JOHN T. WILLIAMS. WEST BANGOR, YORK COUNTY, PENNSYLVANIA.
DAMWAIN ALARUS.
Rhagfyr 29ain, 1864, cyfarfyddodd John T. Williams a'i ddiwedd trwy i raff oedd yn dal cipyll (block) y llusgwr yn nhop chwarel James Parry a'i Gwmni dori, a disgynodd i'r gwaelod, lle yr oedd ef yn gweithio, gan ei daro yn ei ben fel y bu farw yn y fan.Mab ydoedd i Thomas ac Ann Williams, y Rhiwlas, ger Pentir, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru. Yr oedd John yn un o blant y diwygiad mawr diweddaf yn Nghymru, a thra yno yr oedd yn aelod gyda'r Wesleyaid; ond pan y daeth i'r wlad hon ddechreu yr haf diweddaf, barnodd yn well iddo ymuno gyda'r Annibynwyr yn y lle hwn. Yr oedd ganddo gymeradwyaeth oddiwrth yr eglwys y perthynai iddi yn yr Hen~Wlad, a llanwodd hwnw yn ei fywyd yn ngolwg pawb a'i clywsant ef yn cael ei ddarllen yn yr eglwys; ac enillodd ef yr un mor llawn yn ngolwg y rhai na chlywsant ef o'r eglwysydd eraill ac o'r byd.
Yr oedd yn hawdd gweld yn marwolaeth a chladdedigaeth John, beth oedd ei gymeriad yn ngolwg Cymry Slate Hill, fel dyn ac fel crefyddwr.
Ar ol gwneud arholiad ar y corff a phasio marwolaeth ddamweiniol, awd yn nghylch paratoi at hebrwng ei gorff i dy ei hir gartref, yr hyn a gymerodd le Rhagfyr 31ain. Am 2 o'r gloch ymgasglodd y Cymry at y ty. Wedi canu penill yno, awd a'r corff i gapel yr Annibynwyr, lle y dechreuwyd y gwasanaeth gan y Parch. Henry Roberts, ac y dywedwyd gair ar yr amgylchiad gan yr ysgrifenydd. Wedi gorphen hebryngwyd ei gorff i gladdfa Slateville, lle y tawel huna nyd y boreu y daw yr Adgyfodiad a'r bywyd i'w ddihuno, a'i godi yn gorff ysbrydol i ail uno a'r enaid dedwydd heb ofni dadgysylltiad byth mwy.
Gweinyddwyd wrth y bedd gan y Parch. Evan F. Jones, yr hwn a sylwodd yn darawgar, mai dyma'r tro cyntaf iddo ef weled claddu dyn crefyddol er pan y mae yma, sef tua blwyddyn o amser - ac y gallai arfer iaith yr eglwys sefydledig yn briodol ar lan bedd dyn crefyddol, "mewn gwir ddiogel obaith o adgyfodiad gwell i fuchedd dragywyddol."
Fel dyn yr oedd John o dymer lawen yn wastadol, ac yn gofalu am ei chadw o fewn terfynau priodol. Yr oedd yn mhell oddiwrth eiriau ac ysbryd chwerw tuag at neb, yn hynod gyfeillgar â charedig. Fel crefyddwr, yr oedd yn ostyngedig, yn sefydlog, ufudd, a haelionus; yn meddu gwybodaeth dduwinyddol dda, a dawn nodedig i'w defnyddio. Mewn gair yr oedd yn un gobeithiol o droi mewn cylch o ddefnyddioldeb yn yr eglwys. Ond yn mlodau ei ddydiau, yn 23 oed, gorphenodd ei waith ar y ddaear.
Nos Sabboth, traddodwyd pregeth angladdol yn nghapel yr Annibynwyr, rhoddodd y Wesleyaid eu haddoliad i fyny er mwyn uno gyda ni o barch i'r ymadawedig. Y mae'r eglwys hon yn teimlo ei cholled yn ddwys ar ei ol, ydyw y mae wedi teimlo nes ei gyru i wewyr am i'r Arglwydd lanw y bwlch, a chafodd ei chysuro â dychweliad dyn ieuanc yn mhen yr wythnos i'r un dydd. Chwaneged yr Arglwydd enedigion lawer eto yw dymuniad yr eglwys a'r ysgrifenvdd.
JOHN WILLIAMS.