MR. WILLIAM R. WILLIAMS. CHICAGO, ILLINOIS.
Y lle yr oedd Mr. William. R. Williams yn byw yn yr hen wlad a elwid y Ty Newydd, plwyf Llangian, Lleyn, yn agos i'r addoldy a elwir y Capel Newydd - hen addoldy perthynol i'r Annibynwyr er's blynyddau lawer - un o'r rhai hynaf perthynol i'r enwad yn Ngogledd Cymru. Yr oedd yn aelod cymeradwy a defnyddiol yn yr eglwys Gynulleidfaol yn y Capel Newydd er's tuag wyth mlynedd cyn dyfod i America, yn mwynhau llawer o gysuron gyda ei frodyr yno yn ngwahanol ranau y gwaith, yn neillduol yn y rhan werthfawr hono o addoliad, sef canu mawl, yn yr hyn y cymerai lawer o gysur hyd derfyn ei ddyddiau.Ymfudodd gyda ei deulu i'r wlad hon yn y flwyddyn 1840 - cyrhaeddasant borthladd New York Ebrill 12fed y flwyddyn hono, ac wedi aros ryw ychydig tuag Albany daethant i fyny i Sefydliad y Cymry yn swydd Oneida. Bu y teulu byw y flwyddyn gyntaf yn hen dy Mr. Frazier, lle y saif Ty newydd teulu y Ffarm yn awr. Buont wedi hyny yn byw tua thair blynedd yn y ffermdy perthynol i Mr. William. Roberts, plwyf Trenton, yn awr o Remsen, câr lled agos i Mrs. Williams. Ac wedi hyny symudasant i fyw ar ffarm o'r eiddynt eu hunain yn Bordwell town, plwyf Remsen, yr hwn a fu yn lle preswylfa y teulu hyd oni symudodd Mr. Williams a'i briod i Chicago, Illinois, lle yr oedd rhai o'i feibion, a'u hunig ferch a'i theulu yn byw.
Yn uniongyrchol ar ol dyfod i'r wlad hon yn 1840, ymunodd Mr. Williams a'i briod â'r eglwys Gynulleidfaol yn y Capel Ucha', Steuben, a pharhaodd eu cysylltiad hyfryd a boddhaol â'r eglwys hono hyd onid aethant i'r Gorllewin. Bu Mr. Williams yn aelod defnyddiol o'r eglwys hon tra y bu yn preswylio yn ein plith, a theimlem ein colled yn ddwys pan ymadawodd i fyned i Chicago. Y Parch. David Williams, (gynt o Lanidloes,) gweinidog presenol eglwys y Trefnyddion Calfinaidd yn Chicago a ddywed : "Bu yr hen frawd yn preswylio yn Chicago 6 blynedd. Bu farw Tachwedd 3ydd.
Claddwyd ef y 6ed o'r un mis, yr ysgrifenydd yn gweinyddu ar yr achlysur, ac yn traddodi pregeth angladdol y nos Sabboth canlynol, oddiwrth 2 Cor. 5 : 1."
Bu farw yn dra disymwth. Yr oedd yn wael er ys dau fis, heb ddim neillduol o afiechyd ond gwaeledd henaint a llesgedd. Ei oed tua 75.
"O ran ei brofiad yr oedd yn gyffredin yn dra uchel a chysurus, ac i raddau mawr yn perchen sicrwydd am ddedwyddwch dyfodol. Byddai yn rhydd a pharod yn y cyfarfod eglwysig i adrodd ei brofiad ei hun a chynghori eraill. Teimla yr eglwys golled fawr ar ei ol.
"Byddai yn dywedyd yn aml fod yr hen babell yn adfeilio y naill ddiwrnod ar ol y llall. Ychydig funudau cyn marw canodd fel hyn,
'Y mae yr oriau yn fy ngalw,' a.y.
Drachefn canai yn siriol,
'Cymer fi, Iesu, fel yr wyf,' a.y.
ac wedi tewi a chanu, dywedai mewn diolchgarwch, 'Diolch fod Críst wedi marw er mwyn i bechadur fel y fi i gael byw, - pechadur mawr fel fi - a diolch fod fy mywyd imi trwy y marw hwnw.'
"Wedi hyny aeth i orwedd ar y gwely, a bron gyda ei fod wedi gorwedd, anadlodd y tro diweddaf, ac ehedodd y rhan anfarwol i wlad anfarwoldeb, i nofio yn ddiau mewn dedwyddwch diddarfod ac anamgyffredadwy i ni yn y fuehedd hon. Clywodd rhyw un o'r ystafell arall ryw fath o ochenaid ddyeithr, ond erbyn ei fod yn yr ystafell yr oedd wedi marw."
Fel hyn y terfynodd y brawd William R. Williams ei yrfa ddaearol. Diangodd o'r ty o glai heb nemawr gystudd, ac yn lled annysgwyliadwy. Yr oedd yn gymydog tawel a chymwynasol, yn dad a phriod tyner, ac yn aelod teimladwy a ffyddlon yn eglwys Dduw. Bydded i'r mynych symudiadau prysur a dirybudd a gymrant le y dyddiau hyn effeithio er ein deffroi oll i ymofyn am barodrwydd i'r cyfnewidiad mawr sydd yn agoshau.
R. EVERETT.