MRS. JANE EDWARDS, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Mawrth 15fed, Mrs. Jane Edwards, gweddw y diweddar Mr. Edward Edwards o Remsen. Cymerwyd hi yn glaf o'r cyd-dyniad (congestion of the lungs) yn sydyn iawn, a chlaf iawn a fu naw o ddyddiau, pryd yr ymadawodd ei henaid i fyd gwell i fyw.Ymfudodd i'r wlad hon o gerllaw capel y Dinas, Lleyn. Daeth i Steuben at ei modryboedd, chwiorydd i'w mam, a dyna yr oll o'i theulu a ddaeth i America. Priododd ag Edward Edwards, brodor o ger Machynlleth, a bu ef farw ers 10 mlwydd yn ôl. Bu iddynt 10 o blant, 8 o ba rai sydd eto yn fyw - 6 oedd yn ei hangladd, sef 5 o ferched a'i hunig fab - y ddwy ferch arall ydynt yn Sioux City, Iowa.
Cafodd ddygiad i fyny crefyddol gan ei rhieni a bu yn gweini am rai blynyddoedd gyda y teulu gwir grefyddol hyny Robert Jones, Tŷ Bwlcyn. Ymunodd â chrefydd ers tua 34 mlwydd yn Capel Uchaf, Steuben, ac yno ac yn Remsen y treuliodd y cyfan hyd ei hangau. Yr ydoedd yn wraig ddeallus a rhinweddol, yn caru darllen Cymraeg a Saesneg fwy na nemawr o'i chyfoedion. Yr ydoedd yn deall y ddwy iaith yn dda. Dylanwadodd er enill ei gŵr at grefydd, a gwelodd ei phlant oll yn proffesu crefydd ac yn dwyn yr enw mawr. Cafodd ei gweled oll oddieithr ei hunig fab wedi priodi ac yn byw yn gysurus.
Ac yn ddiweddar iawn cafodd fel Jacob weled ei hunig fab cyn marw yr hwn oedd wedi bod am amryw flynyddau tua'r Colerado Territory. Ond daeth adref a chafodd weled ei chladdu cyn troi yn ôl.
Yr ydoedd ei hiechyd yn wael ers llawer o flynyddoedd, a thrwy hyny yn methu cael llawer o foddion gras. Ond arferai lawer ar y moddion grasol oedd yn ei chyrhaedd, sef y Beibl a gorsedd gras. Ni allodd ddweyd ond ychydig gan rym ei chlefyd, a'r hyn a ddywedodd ydoedd iaith ffydd yn y Gwaredwr a pherffaith dawelwch.
Claddwyd hi yn Steuben, gweinyddwyd ar yr achos gan y brodyr Williams, Jones, Thomas, Everett a Roberts.