MRS. JANE EDWARDS. SLATINGTON, PENNSYLVANIA.
Mai 16eg, 1865, yn Slatington, Pennsylvania, yn 30 oed, ar ol naw awr o gystudd o'r cramp yn y cylla, Jane, priod Robert R. EdAvards.Dranoeth hebryngwyd ei gweddillion marwol i dy ei hir gartref, gan dyrfa lluosog, pryd y gweinyddwyd wrth y ty ac yn y capel gan y Parch. E. Hughes, St. Clairs.
Yr oedd yr ymadawedig newydd ymuno â chrefydd gyda'r Annibynwyr, ac yr oedd arwyddion gobeithiol iawn arni hi.
Yr oedd yn ferch i William Williams, Hafodgynfor, Llanberis, Gogledd Cymru.
Gadawodd briod tyner a dau o blant i alaru eu colled ar ei hol.