MISS MARGARET E. EDWARDS. ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Yr oedd Margaret yn ail ferch i Mr. John R. ac Elizabeth Edwards; ganwyd hi yn Bethesda, Gogledd Cymru ar y 25ain o Fehefin, 1842, a bu farw o'r Darfodedigaeth yn Rome, Swydd Oneida ar yr 22ain o Fawrth 1865.

Yr oedd wedi ei chyflwyno i Dduw trwy fedydd yn ei babandod, ac ymfudodd gyda'i rhieni i'r wlad hon yn ei 4ydd flwyddyn. Cafodd ei chyfnewidd trwy ras yn nghwymp y flwyddyn 1860, ac ymunodd yn fuan ag Eglwys y Methodistiaid Wesleyaidd, mewn cyfeillach â pha rai yr arosodd hyd ei diwedd. Yr oedd ei bywyd crfefyddol yn deilyngwiw.

Tra yn oedd clefyd yn gwneyd ei waith arni yn araf, ond yn angerddol, addefai y grasau Cristionogol nes yr oedd fel ysgafn o ŷd yn ei amser, yn llawn aeddfed, pan y casglwyd hi i ysgubor ein Duw. Tra y cafodd ei chyfyngu i'r tŷ, cafodd amynedd ei pherffaith waith, a buddugoliaethai gras yn ogoneddus. Yn ystod ein hymweliadau â hi ni a gaem fod ei hyder yn yr Iachawdwr yn gyson a disigl. Ac er yr ymgodai ambell gwmwl weithiau, ni wnelai hyny ond prydferthu ac addurno graslonrwydd y bywyd. Ei diwedd hi oedd dangnefedd.

Yet again we hope to meet thee,
When the day of life is fled;
Then in heaven with joy to greet thee,
Where no farewell tear is shed.

Ar y 25ain, hebryngwyd ei chorff i'r gladdfa ar y ffordd i Floyd; y Parch. Dr. Rowlands a'i Gweinidog, y Parch. P. H. Wills, yn pregethu yn nghapel y T. W. yn Rome ar yr achlysur.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mai 1865.