MR. GRIFFITH EVANS. QUAKER HILL, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Cartref boreuol Mr. Griffith Evans oedd Lleyn, Arfon, Gogledd Cymru.Ymfudodd ef a'i briod i'r wlad hon 42 mlynedd yn ôl; ymsefydlasant yn gyntaf yn Steuben, ond wedi hyny yn Quaker Hill, ugain mlynedd yn ôl, lle y treuliodd weddill ei oes mewn cysur a llwyddiant.
Hydref 23ain, 1865, bu farw mewn tangnefedd, yn llawn 73 mlwydd a 6 mis oed, wedi proffesu crefydd Crist yn ffyddlawn a difwlch 35 o flynyddoedd.
Gadawodd weddw oedranus, yr hon a fu yn ymgeledd gymhwys iawn iddo am yr yspaid o 45 o flynyddoedd, a saith o blant, yn nghyd a lluaws o berthynasau, i alaru ar ei ôl.
Ennillodd iddo ei hun air da fel gwladwr a chrefyddwr, heddychol a gonest. Yn y flwyddyn 1859 neillduwyd ef yn flaenor eglwys, yr hon swydd a gyflawnodd yn onest a ffyddlawn hyd derfyn ei oes.
Bu, ac y mae eu hannedd yn lletty da i weision Iesu Grist. Bu farw o Glefyd y Galon; cafodd gystudd blin ei ddyddiau olaf. Y nos cyn ei angladd pregethodd y Parch. William Parry. Pittsburgh, Pennsylvania, yn y tŷ, yn Saesonaeg. Dranoeth, sef y 24ain, hebryngwyd ei gorff i'r fynwent wrth gapel y Nant. Yn gwasanaethu, Mr. E. Morris a'r ysgrifenydd.
THOMAS WILLIAMS.