MR. OWEN EVANS. GENESSE, WAUKESHA COUNTY, WISCONSIN.
Ganwyd y trengedig yn Llangower, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1774. Yr oedd yn fab i Morgan Evans.Tueddwyd ei feddwl at grefydd yn lled ieuanc trwy weinidogaeth Mr. Charles. Bu yn gweithio yn y winllan, mae yn debyg, am tua deng mlynedd a thri-ugain, gan barhau yn dirf ac yn iraidd yn ei henaint. Er nad oedd yn meddu ar ryw brofiad uchel, nac yn rhydd oddiwrth amheuon, er hyny yr oedd yn addurn i'w broffes; yr oedd ei ymlyniad wrth yr Arglwydd a'i achos a'i bobl, yn symud pob amheuaeth o feddwl pawb am ei gyflwr. Tybiwn y gellid dyweyd ei fod wedi ei arwain gan Ysbryd yr Arglwydd ar hyd ffordd cyfiawnder, ar hyd canol llwybrau barn, ac i etifeddu sylwedd.
Ymfudodd i'r wlad hon o ardal Llangollen, yn y flwyddyn 1849, a threuliodd weddill ei oes yn Genesee, ger Prairieville, Wisconsin, ac yr oedd yn byw gyda'i fab, Owen Evans.
Medi y 9fed, yr oedd ar y maes yn edrych ar y teulu yn codi boncyffion; torodd y goeden, a chafodd ergyd yn ei ben gan y pawl a ddefnyddid i'r gwaith, fel nas gallodd ddyweyd gair mwyach.
Bu farw y 12fed. a chladdwyd ef ar y 14eg. Gweinyddwyd ar yr achlysur yn y tŷ gan y Parch. Daniel Jenkins, ac yn y capel gan yr ysgrifenydd, ac ar lan y bedd gan y Parch. Owen Hughes.
Nid wyf yn cofio y fath alar erioed wrth gladdu hen ŵr; yr oedd mor anwyl gan ei blant a'i ŵyrion a phe buasai yn mlodeu ei ddyddiau, er ei fod yn 91 mlwydd oed; felly disgynodd i'r bedd mewn oedran têg, yn gyflawn o ddyddiau, fel tywysen addfed. "Ysyr y perffaith ac edrych ar yr uniawn, canys diwedd y gŵr hwnw yn tangnefedd."
JOHN H. EVANS.