MR. HUGH W. HUGHES. SLATE HILL, PENNSYLVANIA.
"Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig," ac i barhau felly ar lechres hanesyddiaeth trwy yr holl genedlaethau.Mab ydoedd Hugh W. Hughes i William a Jane Hughes o Dolyddelen, sir Gaernarfon.
Symudasant oddiyno i Flaenau Ffestiniog pan oedd H. W. yn ieuanc. Yr oedd ei rieni yn aelodau eglwysig gyda'r Annibynwyr, felly cafodd H. W. y fraint o gael ei fagu yn grefyddol. Yn eu tŷ hwy y dechreuodd yr Annibynwyr bregethu gyntaf yn Mlaenau Ffestiniog, sef Talweunydd. Yr oedd llawer o gymwysder yn ngwrthrych ein cofiant at ganu, felly dewiswud ef yn lled ieuanc i flaenori gyda'r canu yn Bethania, Blaenau Ffestiniog.
Pan yn 28 oed priododd gyda Gwen, merch John a Gwen Jones o'r un lle. Yn fuan wedi hyny dewiswyd ef yn falenor yn yr eglwys. Gwasanaethodd y swydd yno am 10 mlynedd. Daeth i'r wlad hon ugain mkynedd yn ôl. Bu yn Long Island am ychydif fisoedd, yna symudodd i'r lle hwn, a bu yma yn sefydlog hydd dydd ei farwolaeth.
Am y blynyddoedd cyntaf ar ôl ei sefydliad yma, dywed y Parch. Henry Roberts am dano fel hyn :- "Nid oedd ond ychydig o Gymry yn yr ardal hon pan ddaeth y brawd Hugh Williams yma yn y flwyddyn 1845. Er iddo ymsefydlu mewn ystyr dymhorol yn fuan, eto yr oedd ymddifadrwydd o foddion crefyddol yn yr iaith Gymraeg yn achos o ofid gwastadol i'w feddwl. Pan ddaethum yma yn 1847 yr oedd yn dra awyddus am gael achos crefyddol i genedl y Cymry yn eu hiaith eu hunain.
Ni bu ei gystudd diweddaf ond byr, dyoddefodd ef yn dawel. Ebrill 6ed, wedi ffarwelio a'i deulu, dywedodd ei fod yn mynedd at Iesu Grist, ac yn ebrwydd croesodd yr afon ddu ato ef i ogoniant, gan adael gwraig a 6 o blant, tair o ferchaid a thri o feibion. Da genyf ddweyd fod y teulu oll oddieithr y mab hynaf yn proffesu crefydd a'r Sabboth cyntaf wedi i'n hanwyl frawd fyned i'r eglwys orfoleddus, y ganed yntau yn yr eglwyd folwriaethus.
Yr ail Sabboth traddodwyd pregeth angladdol iddo yn Bethesda.