MR. GRIFFITH JONES (Bryncelyn), REMSEN, ONEIDA, EFROG NEWYDD.

Ganwyd gwrthddrych y Cofiant hwn mewn lle a elwir Bryn-celyn, Llanengan, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn nghylch y flwyddyn 1762.

Dywed rhai o'i gyfoedion ei fod ddwyflwydd yn hynach : ond y flwyddyn a nodwyd a gafwyd ganddo ef ei hun.

Yr oedd ei rieni yn proffesu crefydd gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Bu eì dad farw pan oedd ef oddeutu 15 mlwydd oed ; ac felly dísgynodd gofal y teulu arao ef a'i fam.

Yr ydoedd yn amser tywyll iawn yn Nghymru y pryd hyny, ac ond ychydig yn proffesu crefydd : er hyny cafodd ef ei fagu a'i feithrin yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd yn moreu ei oes.

Pan oedd yn 10 mlwydd oed, daeth gwr o'r Deheudir, o'r enw Mr. Gray, trwy y wlad i bregethu. Pan ddaeth i'r ardal uchod, aeth G. J. gyda'i dad i wrando. Effeithiodd y weinidogaeth mor rymus ar ei feddwl y pryd hyny, fel nas gallodd ysgwyd ymaith y pethau oddiar ei feddwl, er ymgyndynu rai blynyddoedd.

Pan oedd yn 17 oed, aeth yr ymrysoniadau mór nerthol ar ei feddwl fel y penderfynodd ymuno â*r eglwys yn ddioed : ac felly y bu.

Yn yr 20 flwyddyn o'i oedran, cafodd ei neilldno yn Henadur eglwysig, a bu yn y swydd tra y bu byw, sef am ddwy ar bymtheg arhugain o flynyddau yng Nghymru, a thair ar-hugain yn America.

Dechreuodd, pan yn ieuanc, deithio i Gymdeithasfa y Bala. Mae yn gof genyf iddo ddywedyd wrthyf iddo gael y fath ymweliad iddei enaid un tro, yn y Bala, fel y parhaodd yr effeithiau ar ei ysbryd ddwy flynedd a hanner.

Mwynhaodd, er yn ieuangc, lawer o gymdeithaa y rhai enwocaf eu doniau yn ngweinidogaeth yr Efengyl; megys Robert Roberts, Clynog ag eraill. Teithiodd lawer trwy amraianau o Arfon a Môn, gyda Robert Roberts.

Pan oedd yn ddeuddeg ag hugain oed ymunodd yn y 'stad briodasol a Sidney merch Evan ac Ann Griffiths.

Rhoddodd yr Arglwydd iddynt un-ar-ddeg o blant; wyth o ba rai sydd yn awr yn fyw. Ymfudodd i America yn y flwyddyn 1818. Ni byddai yn anfuddiol rhoddi ychydig o hanes ei fordaith, gan fod pethau tra hynod wedi dygwydd arni. Darfu iddo ef, a dau deulu eraill o Gymru, gytuno am eu mordaith yma. Cafodd ganiatâd gan y Cadben i addoli Duw gyda'i deulu ar y fordaith.

Er nad oedd y teuluoedd eraill yn proffesu crefydd eto darllenent benod o'r Beibl yn eu cylchdro gydag ef. Y gweddiìl o'i gyd-deithwyr oeddynt Saeson.

Cychwynasant o Lerpwl y 3ydd o Fai, y flwyddyn a nodwyd. Dyn meddw oedd y Cadben. Collodd y ffordd, a hwyliodd yn mhell i'r dê, sef mor belled â'r gwyntoedd masnachol.

Yr oedd llawer o'r Saeson yn proffesu, ac un pregethwr yn eu mysg. Un tro, gofynasant ganiatâd iddo i bregethu, yr hyn a gafodd, a daeth y Cadben, yn nghydag eraill, i wrando, ac eisteddodd am ychydig; ond yn mhen ennyd, cyfododd i fyny ac archodd i'r dwylaw fyned at eu gwaith, a rhoddi ffordd ar y llong. Gorchymynwyd pawb i'w le, a hyny cyn i'r gwr orphen ei bregeth.

Ar ol hyny dechreuaaant erlid y Saeson. Ar un boreu Sabboth, a'r Saeson yn darllen a gweddio, clywai fy nhad yr Is-gadhen yn gorchymyn i un o'r llongwyr godi ystenaid o ddwfr, i'w daflo atynt, yr hyn a nacâodd.

Yna dywedodd wrth fansiandwr ydoedd gerllaw am wneuthur, ac efe a wnaeth yn ddioed. Deallodd fy nhad ei fod am ei thaflu at eì ben. Cyfododd i fyny i ddal yr ysten, ac wrth hyny daeth y dwfr ì'w wyneb, a throsto at rai o'r Saeson. Yna rhedodd un ô'r Saeson, yr hwn oedd ddyn cryf ìawn, at yr Is-gabden, ac a'i llindagodd yn y fan; a gwaith mawr a gafodd fy nhad gael ganddo ei ollwng cyn ei dagu ì farwolaeth.

Ar ol hyn, cafodd y Cymry lonydd i addoli y pryd y mynent; ac ni chynnygiwyd gan y Saeson mwy. Yn mhen ychydig wedi hyn, pan oeddynt wedi troi tuag at Gaerefrog-Newydd, cyfarfyddodd â hwynt herw-long (privateer), a gorchymynwyd iddynt roddi y llong i fyny iddynt hwy yn ddioed, a pharasant i'r Cadben aç eraill ddyfod i'w llong hwy : ond ni chymerodd y Cadben arno eu clywed.

Yna saethodd yr herw-ladron atynt, a chymerasant y cwch, a byrddiasant y llong. Ysbeiliasant y llong a'r teithwyr. Aethant a'r arian, gymaint ag a allasant gael.

Yn mhlith pethau eraill aethant a bwyd fy nhad i gyd, a llawer o fwyd y Cadben. Torasant raffau a hwyliau y llong, ac a'u dygasant ymaith. Aethant i'r lle yr oedd ychydig arian gan fy nhad, ac aethant a'i ddillad ymaith; ond ni welsant yr arian, mae yn debyg, er eu bod o flaen eu llygaid.

Wedi iddynt ysbeilio cymaint a ewyllysiasant, gorchymynasant i'r teithwyr fyned i lawr i'r gwaelod, y rhai yn ddioed a ymollyngasant bendramwngl i lawr.

Fel yr oedd fy nhad yn myned yn araf, tarawodd un ef â'i gleddyf. Ond fel yr ydoedd yn lled dywyll, ochr y cleddyf a ddaeth i'w erbyn. Wedi hyn, aethant ymaith. Cynnygiasant droi yn ol lawer gwaith, fel pe buasant heb gael digon o rwysg i'w chwant uffernol. Ond ni oddefodd y Llaw anweledig íddynt wneuthur un niwed i fywyd neb. Ar ol iddynt fyned ymaith, gollyngasant y Cadben a'r lleill o ddwylaw y llong mewn cwch yn ol.

Ar ol iddynt fyrddio y llong, taniasant y cyflegrau ydoedd ar un ochr i'w llong atynt ar unwaith. Yn y cyfamser yr ydoedd fy nhad, a llawer erail ar fwrdd y llong. Pwysai fy mrawd hynaf ar fy nhad, pryd y nesaodd fy nhad ef ymaith odddiwrtho, gan ddywedyd y gallasent ein cyrhaeddyd ein dau ar unwaith ; a chyda'r gair daeth pelen cyflegr dan ei fraich drwodd i'r mor. Wedi iddynt flino, neu fethu, oherwydd y llaw anweledig, aethant ymaith.

Wedi dyfod yma, ymsefydlodd yn Remsen. Bu am y saith mlynedd cyntaf, yn yr Eglwys Gynnulleidfaol, yn Steuben, yr hon oedd y pryd hyny yn gymmysgedig i Annibyuwyr a Threfnyddion Calfinaidd.

Tua phen y seithfed flwyddyn cafodd ef, ac amrai eraill, ar eu meddwl ymadael, a ffurfio eu hunain yn Eglwys berthynol i'r Trefnyddion Calfinaidd. Bu yn llafurus gydag achos yr Arglwydd tra y galludd gan henaint. Byddai yn myned oddiamgylch yn fynych gyda rhyw frodyr eraill i gadw cyfarfodydd neillduol, lle nad oedd ond ychydig nifer. Ond nid ydoedd y blynyddoedd diweddaf o'i oes, yn gallu myned ond i'r lleoedd agosaf ato.

Tua diwedd Tachwedd, 1841, dechrenodd lesghau mwy nag arferol. Galwyd ato feddyg deallus, dan ofal pa un y bu hyd oni orphenodd ei yrfa ddaearol. Parhâodd i wanhau bob dydd. Hysbysodd y meddyg na allasai fyw ond ychydig yn hwy. Ddydd Mawrth, yr 20fed o Ragfyr, daeth amryw o'i gyfeillion i ymweled âg ef.

Yr oedd y pryd hyny yn llesg iawn ; ond er hyny, pan y daethant i'r ystafell ato, gwelwyd sirioldeb yn ei wedd. Ac er fod ei freichiau i raddau yn ddi-ffrwyth, yr oedd yn ceisio estyn ei law at bob un o honynt, gan wasgu eu dwylaw yn y modd mwyaf caredig, fel am y tro olaf.

Bu fyw hyd hanner awr wedi deuddeg dranoeth, pryd y cymerodd ei ran anfarwol ei hedfan adref i fyd yr ysbrydoedd.

Y dydd Sadwm canlynol, ymgasglodd tyrfa luosog i'w hebrwng i'r bedd. Yr ydoedd mwy na thriugain o geir eira yn yr angladd. Pregethwyd ar yr achlysur, gan y brodyr Wm. T. Williams, a William Rowlands.

Yna rhoddwyd ei gorph i orwedd yn mynwent Pen-y-caerau, hyd foreu yr adgyfodiad cyffredinol.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ebrill 1842