MR. EVAN JAMES. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Mai 5ed, 1864, yn mhentref Remsen, Mr. Evan James, hen sefydlydd o blwyf Remsen, wedi cyrhaedd yr oedran o 76 mlwydd a rhai misoedd.Ei gystudd oedd gwendid a gwaeledd hen ddyddiau.
Ymfudodd i'r wlad hon o Ty'nrhos, Rhiw, Lleyn, yn y flwyddyn 1824, a threuliodd o'r bron ei holl amser yn mhlwyf Remsen fel amaethwr diwyd a llafurus.
Magodd amryw blant - rhai o'r cyfryw a'i blaenasant i'r bedd. Ac un o honynt, Richard James, ei fab hynaf, a fu farw yn Boonville, Mawrth 26ain, oddeutu 40 niwrnod o'i flaen ef, gan adael ar ei ol weddw ac un ferch fechan i alaru ar ei ol, heb law ei deulu a ffrindiau.
Claddwyd ef yn Boonville. Ac mae eto wedi eu gadael i alaru ar ol yr hen frawd ei weddw a thri o blant, y cyfan mewn sefyllfa gysurus yn y byd.
Claddwyd ef yn Fairchild yn ochr ei fab Evan a cherllaw dau o'i wyrion, pa rai a gladdwyd gyntaf o'r Cymry yn y fynwent hono. Ond mae yno yn awr gyfrif mawr o honynt yn gorwedd. Y mae yn lle ddymunol iawn i gladdu y marw.
Yr oedd yr hen frawd yn proffesu crefydd gyda yr Annibynwyr er y diwygiad yn y flwyddyn 1838 - cartrefai yn Steuben o dan weinidogaeth y Dr. Everett. Ymdrechai mewn gweddiau yn ei gystudd a'i wendid mawr am barodrwydd i farw, a hyderai yn unig yn Nghrist am galwedigaeth. Gweinyddwyd yn ei angladd gan y brodyr John Vaughau a'r Dr. Everett.