MR. ELLIS J. JONES. CAMBRIA, WISCONSIN.

Mawrth 11eg, o'r Darfodedigaeth, yn 33 mlwydd a 9 mis oed. Ellis J. mab i'r Parch William ac Ann J. Jones, "Snowdon," Welsh Prairie, Wisconsin. (gynt o'r Rhyd-ddu, Sir Gaernarfon.)

Cawsai gystudd maith a thrwm tua 5 mlynedd yn ôl, a bu yn ôl ein meddwl ni, yn agos i farw y pryd hwnw, ond cafodd arbediad hyd yn awr.

Yr oedd yn ddyn siriol a chyfeillgar, ffyddlon a diwyd gyda'i orchwyl yn y fuchedd hon; ond cafodd y fraint o wneyd pethau presenol yn ail bethau, a cheisio yn gyntaf deyrnas Dduw a'i gyfiawnder ef.

Cafodd gystudd llym a phoenus, eto medrai ddyweyd dan y cwbl "Ewyllys yr Arglwydd a wneler." Yr oedd yn cael dyddanwch mawr yn ei gystudd mewn hen bennillion, megys. 'Bydd melus yn yr afon,' a.y. 'Braint, braint yw cael cymdeithas,' a.y. 'O fryniau Caersatem ceir gweled,' a.y. A thrôai yn aml at Dduw mewn gweddi; ac wedi methu siarad cyfeiriai i fyny i ddangos i ba le yr oedd yn myned. Cyd dystiai ei weithredoedd yn ei fywyd, yn gystal a'i brofiadau yn ei gystudd, ei fod yn myned i wlad well.

Cafodd ei gorff ei gladdu, yn ôl ei ddymuniad, wrth ochr ei chwaer, yr hon oedd wedi ei ragflaenu. Ar yr achlysur, gweinyddai y Parch. W. Hughes, Racine, a'r Parch. T. Phillips, Baraboo, yn Saesonaeg.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mai 1865.