MR. GRIFFITH A. JONES. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Awst 23ain, yn Utica, yr hen frawd Griffith A. Jones, diweddar o Remsen, wedi cyraedd yr oedran o 88 mlwydd ac ychydig drosodd.Yr ydoedd yn ymfudol o Edeyrn, sir Gaernarfon. Treuliodd yn agos i 40 mlynedd yn America, yn mhlwyf Remsen yn gwbl, ond a fuodd gyda'i fab, yr hwn gyd a'i briod a ofalodd yn ffyddlon am ei hanwyl dad yn ei henaint a'i waeledd ac a'i claddasant yn barchus yn Bethel gyda'i anwyl wraig a Laura Griffiths ei ferch.
Proffesodd grefydd yn ffyddlon am lawer blwyddyn. Gweinyddwyd yn ei angladd gan y Parch. James Griffiths.