MR. ROBERT JONES. TUG HILL, LEWIS COUNTY, NEW YORK.

Rhagfyr 24ain, 1865, ar Tug Hill, Swydd Lewis, New York, yn nhŷ ei ewythr, Mr. William Roberis, Pen-ar-fynydd, Robert Jones, yn 20 mlwydd, 5 mis a 5 niwrnod oed.

Mab ydoedd i'r diweddar John A. a Mary Jones, Pen-y-caerau, Aberdaron, Gogledd Cymru, y rhai a ymfudasant i'r wlad hon flynyddau yn ôl, o Nant y Llymgwyn Bach, Sir Gaernarfon.

Ymrestrodd i fyddin yr Undeb i amddiffyn ei wlad, gyda'r 20th Cavalry Company, New York. Pan ar gychwyn adref o ymyl Washington, wedi ei ryddhau yr hâf diweddaf, cymerwyd ef yn glâf o'r Darymrediad, yr hwn a'i cadwodd yn ôl wythnosau rai heb gyrhaedd adref. Ond adferwyd ef i raddau; ac o herwydd ei awydd a'i ymdrech gormodol i gyrhaedd pen ei daith, tybir iddo wneyd niweid iddo ei hun, a phrysuro ei farwolaeth - ail-ymaflodd yr afiechyd yn ffyrnig yn ei natur nes trechu y meddygon, a bod yn angau iddo yntau. Cafodd gystudd trwm a maith, eto dyoddefodd ef yn dawel. Nid oedd yn proffesu crefydd, yr hyn a'i gofidiai yn fawr, ac a barodd iddo ddymuno llawer am gael byw, ac i dreulio un awr yn y winllan. Er hyny, cafwyd llawer tystiolaeth ganddo yn nghanol ei gystudd ag sydd yn sail i'w berthynasau i gymeryd cysur, a pheidio tristau fel rhai heb obaith gyda golwg ar ei sefyllfa dragywyddol.

Ar y 26ain, hebryngwyd ei gorff i gapel y T. C, ar ei ffordd i'r gladdfa, gan dyrfa luosog o Gymry a Saeson. Cafwyd pregeth Saesonaeg ar yr achlysur gan y Parch. Mr. Nicols (T. W.), Turin; a'r Sabboth canlynol cafwyd pregeth dra phriodol i'r amgylchiad, yn Gymraeg, gan y Parch. Daniel T. Rowlands, oddiwrth y Salm 90. 9.

Heddwch i'w lwch, medd ei gefnder.
R. W. ROBERTS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mawrth 1866.