MR. THOMAS JONES, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mawrth 10fed 1865, yn mhentref Remsen, ar ôl cystudd trwm, (y cancer ar ei wyneb.) Mr. Thomas Jones, a adnabyddid wrth yr enw Thomas Jones, Tycroes, yn 75 mlwydd oed.

Daeth i'r wlad hon yn y flwyddyn 1818 o blwyf Rhiw, Lleyn, Caernarvon, a threuliodd weddill ei oes yn yr ardaloedd hyn.

Yr oedd yn aelod o'r eglwys Gynulleidfaol yn Steuben ers amryw flynyddoedd, yn ddiwyd a ffyddlon yn y cyfarfodydd crefyddol - yn ymdrechgar hyd y gallodd, yn neillduol gyda'r cyfarfodydd gweddi. Ei ymddiried am ei fyẃyd oedd yn y Gwaredwr mawr.

Claddwyd ef yn mynwent y'Capel Ucha' Steuben, a gweinyddwyd gan y brodyr A. Williams a R. Everett.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ebrill 1865.