MRS. ANN MADDOCK. EMPORIA, KANSAS.

Ganwyd Mrs. Maddock yn Penmachno, sir Gaernarfon. Yr oedd yn ferch i John ac Ann Williams o'r lle uchod.

Symudodd Mr. Williams a'r teulu i'r wlad hon a sefydlasant yn Wisconsin. Yn fuan ar ôl eu dyfodiad yma, pan oedd pob peth yn ddymunol, daeth angau i mewn i'r teulu cysurus a chymerodd y tad a'r mab megys â dyrnod yn ddisymwth iawn. Gadawyd gweddw a dau fab a gwrthrych y cofiant hwn ar ôl i alaru eu colled. Yn fuan wedyn daeth Mrs. Williams a'r plant i'r lle hwn, ac mae gwenau rhagluniaeth wedi bod arnynt i raddau helaeth.

Mae Mrs. Williams yn hen fam yn Israel yn ol ystyr helaethaf y gair. Felly cafodd Mrs. Maddock ei dwyn i fyny dan aden crefydd o'i babandod.

Y 12fed o Chwefror diweddaf ymunodd mewn priodas â John Maddock, mab Mr. John Maddock, un o hen ddiaconiaid y Parch. David Rees, Llanelli, yr hwn a symudodd i'r wlad hon tua 12 mlynedd yn ôl i West Columbia, Virginia, ac a fu yn nghyd a'i deulu yn ymdrechgar iawn i godi achos y Gwaredwr i fyny yn y lle. Nid oedd yr undeb priodasol i fod ond byr, oblegyd dechreuodd Mrs. Maddock wanychu yn fuan, a pharhaodd felly. Tua mis cyn ei hymddatodiad aeth ei chlefyd yn drwm a phoenus iawn.

Yr oedd Mrs. Maddock yn fenyw dawel a di-rodres, hoff o ddarllen ei Beibl. Yr oedd ei hymddyddanion yn ei chystudd diweddaf yn eglur ddangos fod crefydd yn werthfawr iawn erbyn byd arall. Bn farw o'r dropsi am 3 o'r gloch bore yr 2il o Ionawr, 1865, yn 22 dflwydd o'i hoedran. Gweinyddwyd yn ei chladdedigaeth i dyrfa luosog gan y Parch. Mr. Morse a'r ysgrifenydd. Gadawodd briod a baban bychan i alaru ar ei hol. Tad yr amddifad a Barnwr gweddwon a ofalo am danynt.
JOHN DAVIES. Emporia.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Chwefror 1865.