MR. HUMPHREY ROBERTS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Mawrth 18fed, 1865, yn Remsen, New York, o'r Tân Iddwf yn 71 mlwydd a 7 mis oed, y brawd Humphrey Roberts.Brodor oedd o Bryncroes, Lleyn, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.
Ymunodd â chrefydd yn 1813. Daeth i'r wlad hon yn 1831. Bu am 21 mlynedd yn byw yn ardal French Road. Steuben : svmudodd i ardal Penygraig, lle y bu, ac yn aelod o eglwys y T. C. sydd yno, hyd ddiwedd ei yrfa.
Onibai fod y Golygydd yn achwyn rhag meithder, dywedem lawer am ein cyfaill hoff. Anhawdd tewi heb ddyweyd ei fod yn un o heddychol ffyddloniaid Israel, fel y Sunamees, y bwrdd, yr ystol, a'r canwyllbren yn wastad yn barod i groesawu gweision yr Arglwydd pan ar eu teithiau. Carwn ddyweyd hefyd fod yno eto yr un croesaw gan ei fab a'i deulu caredig i bawb o'r gweision droi i mewn. Dywedai fod yn well cael marw, ei bod yn llawer iawn gwell. Dywedai fod yr hen gyfammod a fu gynt rhyngddo â'i Dduw yn dal yn gryf pan yn wynebu y glyn tywyll, a'r Breichiau tragywyddol oddi tano. Yr oedd yn hyfryd bod yn ei gwmni pan ar ei glaf-wely. Credym yn ddiysgog ei fod wedi cyrhaedd gwlad lle na ddywed neb o'r preswylwyr, 'Claf ydwyf'.
Gweinyddwyd ar yr achlysur o'i gladdedigaeth gan y Brodyr J D. Jones, E. Rees, E. Salisbury a M. Roberts.yn Mben-y-graig; yna aed a'r gweddillion i fynwent French Road.
E. SALISBURY.