MRS. LAURA ROBERTS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
John a Laura Roberts a'u teulu o Llain Fatw, Llangwnadl wedi ymfudo i America ar y Brig Gomer yn 1827. Gellir gweld ar y rhestr teithwyr:-John Roberts. 38 Ffermwr.
Laura Roberts. 41.
Mary Roberts. 17. bedyddio------------------yn Eglwys Llangwnadl 15/10/1809.
Robert Roberts. 13. bedyddio Robert H Roberts yn Eglwys Llangwnadl 13/02/1814.
Evan Roberts. 7. bedyddio----------------- yn Eglwys Llangwnadl 05/12/1819.
Wedi cyrraedd America sefydlu ar fferm gweddol fychan ym mhlwyf Steuben. O gyfrifiadau'r Unol Daleithiau gellir gweld fod Mary ac Evan gartref ar y fferm gyda'i rhieni.
Roedd y fferm yn cynnwys 30 erw o dir wedi ei drin a 25 erw heb ei drin (coedwig). Ar y fferm yr oedd yn cadw un ceffyl, pump buwch odro, un llo, saith dafad a dau fochyn.
Hefyd 'roedd yn aredig a thyfu cnydau ac yr oedd ganddo 60 hobaid o geirch yn 1860.
Bu John H Roberts farw ar 15ed Hydref 1864 yn 77 oed.
Bu Laura Roberts farw ar 12ed Medi 1865 yn 79 oed.
Bu Evan farw ddau ddiwrnod ar ôl ei fam ar 14eg Medi 1865. Ar ei garreg fedd nodir ei fod yn 40 oed, ond yn ôl dyddiad ei fedyddio yr oedd yn hyn na 40 pan fu farw.
Bu farw Mary ar 13eg o Awst 1875 yn 65 mlwydd oed.
Mae'r pedwar wedi'u claddu wrth ochr eu gilydd ym mynwent Pen y Graig, Steuben ac mae enw ei gartref, Llainfatw wedi ei dorri ar garreg fedd John H Roberts.