MRS. HANNAH THOMAS. NEW YORK.

Yn ninas Efrog Newydd, ar y 7fed o Ebrill, 1865, bu farw Mrs. Hannah Thomas, sef priod Lewis Thomas, ysw., yn 56 oed.

Yr oedd yn afiach er's amryw fisoedd, ond nid yn orweddog hyd ei dyddiau diweddaf. Ei hafiechyd oedd y dyfrglwyf yn gymysgiedig â'r darfodedigaeth. Bu yn un o'r gwragedd iachaf a chryfaf hyd o fewn blwyddyn yn ôl.

Merch ydoedd i Thomas ac Elizabeth Owen, gynt o Lanegryn, swydd Feirion, Gogledd Cymru.

Priododd â Mr. L. Thomas 28 o flynyddau yn ôl, yn Nhowyn, Meirion, Gogledd Cymru, ac yn fuan wedyn ymfudasant i'r wlad hon ac ymsefydlasant yn ninas Efrog Newydd.

Bu iddynt 9 o blant, o ba rai claddwyd tri o flaen eu mam; ac mae 6 yn fyw i alaru ar ei hol; tair merch wedi priodi, a dwy ferch a mab gyda'u tad, yr ieuengaf yn 13 mlwydd oed. Mae amryw o'r plant yn aelodau ffyddlawn o'r eglwys Gynulleidfaol Gymraeg yn y ddinas hon. Nid ydoedd Mrs. Thomas yn aelod eglwysig; ond yr oedd ganddi barch mawr i grefydd a chrefyddwyr cyson.

Tystiai y teulu wrth yr ysgrifenydd y byddai bob amser yn gofalu ar fod esgidiau y plant wedi eu glanhau nos Sadwrn, fel y byddent yn barod ar eu codiad boreu Sabboth i hwylio i'r ysgol. Yr ydoedd fel mam, yn un o'r rhai mwyaf tyner a gofalus am ei phlant - dysgai iddynt oll i weithio, er mwyn dyfod yn ddefnyddiol i gymdeithas, a gwnai hyny bob amser yn ddifroch, ac mewn tymerau da; ac am hyny yr oedd gan y plant oll y parch mwyaf iddi, a'r serch cryfaf tu ag ati. A thra dwys yw eu hiraeth ar ei hol.

Fel priod, yr oedd yn un o'r rhai mwyaf hynaws a pharchus o'i gwr, a "gwnaeth iddo ddaioni, ac nid drwg holl ddyddiau ei bywyd."

Fel cymydoges yr oedd yn drugarog ac elusengar; yn ddiabsen am bawb, ac yn gwarchod gartref yn dda. Mae Mr. Thomas yn un o'r Cymry mwyaf cyfoethog yn y ddinas, ac wedi bod yn un o'r rhai mwyaf haelionus at yr achos crefyddol bob amser; ond tystiai wrthyf na ddywedodd ei briod air erioed yn erbyn iddo roddi yr hyn a ewyllysiai at bethau crefyddol, neu i'r anghenog, er ei fod un waith wedi talu $400 gyd a'u gilydd i leihau dyled yr addoldy.

Byddai yr ysgrifenydd yn ymweled â hi yn fynych yn ei chystudd, a byddai bob tro yn dra diolchgar iddo am ddarllen a gweddio gyda hi. Ymdrechai weddio ei hunan, a dywedai, "Gobeithio y gwnaiff yr Arglwydd wrando fy ngweddiau gwael." Galwai lawer gwaith yn y dydd weithiau ar ei mab i weddio drosti.

Fel yna yr ymadawodd â'r byd hwn, a chafodd ei chorph gwael y gladdedigaeth fwyaf anrhydeddus. Ymdrechodd yr Iowa Boy osod allan deimladau y teulu yn yr amgylchiad, trwy y Penillion canlynol:

O angau, O angau, hen elyn wyt ti,
A laddodd filiynau, heb arbed eu cri;
Mae'r dagrau yn dystion a beddau y byd
A'r gwisgoedd galarus i'th erbyn i gyd.

Ti laddodd ein brodyr a'n chwiorydd oedd gu,
Cym'dogion a cheraint a leddaist yn llu;
Dwys-deimlo yr oeddym, wrth gladdu'r rhai hyn,
Ond heddyw mae'th saethau yn llawer mwy llym.

Ti ddygaist fy mhriod o'm mynwes i fedd,
A gweddw ym gwnaethost, a'm plant yr un wedd;
Ti glwyfaist galonau oedd unol yn wir,
Wrth dori undebau barhâodd yn hir.

O Lywydd y nefoedd a lluoedd y llawr,
Clyw ochain a chwynion yr unig yn awr,
A gollodd ei gydmar oedd serchog a chu,
Heb obaith y dychwel i'w lle yn ei thŷ.

Oedd un o holl wragedd y ddaear i gyd
Ddim hawddach ei hebgor na Hannah o'r byd?
Mi dybiaf na chladdwyd un fwynach erioed,
0 ddyddiau ein Hefa, er chwilio pob oed.

Ein colled a deimlwn yn fwyfwy bob dydd,
A gweled ei heisiau a wlycha ein grudd;
Pwy bellach a deimla mor dyner a'n mam?
Pwy sycha ein gruddiau pan caffom y cam?

Nid grwgnach yr ydym, ond wylo fel plant,
A theimlo ein colled yn ddiäu mal cant;
Diolchwn o galon am arbed ein tad,
I gym'ryd ein gofal a'n gwarchod yn fad.

O Farnwr y gweddwon, gwna wrando ein cwyn,
Mewn trallod yr ydym, a thithau sydd fwyn;
Diolchwn yn ffyddlawn am fenthyg ein mam,
I gym'ryd ein gofal tra'n ieuanc a gwan.

O dysg ini ganu trugaredd a barn,
A gochel y grwgnach, wrth dderbyn ein rhan;
Rho fendith i ganlyn y croesau i gyd,
A gwna ni yn barod cyn gadael y byd.

Ti Geidwad 'colledig a Meddyg y claf,
A Chyfaill yr unig y gauaf fel haf;
Rho gymorth i gredu dy 'ddewid i'r gwan,
A dilyn yr Iesu nes delom i'r lan.

Ein ceraint anwylaf a'n gedy ryw ddydd,
Wrth afon 'r Iorddonen y byddwn yn brudd,
Os collwn ein gilydd yn nh'w'llwch y glyn,
Gad i ni gyfarlod yn Seion 'nol hyn.
Iowa Boy.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mehefin 1865.