MR. WILLIAM P. THOMAS, RADNOR, OHIO.
Ganwyd William P. Thomas mewn tŷ ffarm o'r enw Llwynafon, yn mhlwyf Penymorfa, Swydd Gaernarfon. Y mae ganddo frawd yn byw yn Rhydfychan, Penygroes, Llanllyfni, a chwaer yn ardal Bethel, Cymru. Nid ydym yn gwybod dim mewn perthynas i'w rieni yn eu cysylltiad a chrefydd, na pha fodd y cafodd William ei ddwyn i fyny yn moreu ei oes, ond y mae yn wybodus iddo gael ei dueddu er yn foreu i wrandaw pregethiad yr efengyl. Bu yn gwrandaw am dymor ar y T. C. yn ei ardal enedigol, ond heb dderbyn un argraff neillduol ar ei feddwl.Symudodd i Fangor, a bu yno yn gwrandaw ar weinidogaeth y Parch. Arthur Jones, D. D., a bu dan Weinidogaeth y gŵr enwog hwnw drachefn am dymor heb deimlo un wasgfa am ei gyflwr. Ond dygwyddodd un Sabboth i Jones gyfnewid a Samuel, Bethesda. Pregethodd y brawd Samuel oddiwrth y geiriau hyny, "Canys digon i ni yr amser a aeth heibio o'r einioes i weithredu ewyllys y cenhedloedd," a phan yr oedd gyda nerth a dylanwad yn ail adrodd y geiriau pwysig " Digon, ie, a llawer gormod sydd wedi ei dreulio o'n hamser yn ngwasanaeth pechod," - aeth y weinidogaeth fel saeth i'w galon, a chafodd ei droi o gyfeiliorni ei ffordd at Dduw, a rhoddodd ei hun i'r Arglwydd ac i'w bobl mewn cyfamod yn Bangor, dan ofal y Parch. Arthur Jones. Derbyniasom y dystiolaeth hon o'i enau ar ei wely angau.
Yn y flwyddyn 1836 ymfudodd i'r wlad hon a sefydlodd ar y cyntaf yn Utica a Steuben. Symudodd oddiyno i Ebensburg a Pittsburgh. Yn y flwyddyn 1840 symudodd i Radnor, Ohio, ac yma y sefydlodd hyd ddiwedd ei oes.
Yn fuan wedi ei sefydliad yma unodd mewn priodas â Mrs. James, yr hon a fu yn ymgeledd a chysur iddo hyd derfyn ei hoes, yr hyn a gymerodd le ychydig flynyddau o'i flaen ef: a chan na fu iddynt blant, ar ôl marwolaeth ei briod, yn hytrach na chadw tŷ dewisodd fyned i letya gyda ei gyfeillion, yn fwyaf neillduol gyda Mrs. Penry a Mrs. Jones, Bryntirion.
Ni a welwn oddiwrth dystiolaeth y brawd ei hun, ei fod wedi ei ddwyn i gofleidio gwir grefydd yn moreu ei oes, yn ngwlad ei enedigaeth. Ac er gadael ei frodyr a'i chwiorydd crefyddol ar ôl, a wynebu ar dir America, ac er teithio llawer i wahanol fanau yn y wlad hon, parhaodd i deithio ar yr uniawn ffordd yn mhob tywydd, fel y gellid gweled yn amlwg fod gwreiddyn y mater wedi ei gael ynddo. Ac yr oedd bob amser yn ymddangos ei fod yn ystyried mai dyeithr a phererin ydoedd ar y ddaear, a bod ymofyniad ei enaid am wlad sydd well na'r ddaiar hon.
Yr ydoedd y brawd Thomas yn hoff iawn o ddarllen y Beibl a llyfrau da eraill. Yr oedd wedi casglu llyfrgell o lyfrau gwerthfawr. Yr oedd wedi bod yn dderbyniwr cyson o'r Cenhadwr o'r dechreu hyd ddiwedd ei oes, ac yr oedd wedi ei rwymo yn gyfrolau heirdd, a mawr oedd y pleser oedd yn gael wrth ddarllen eu cynwysiad, a gwledda ei enaid ar fer a hufen llenyddiaeth grefyddol y Cymry yn America, am y chwarter canrif diweddaf. Nid yn unig yr oedd yn caru darllen a myfyrio, ond yr oedd yn hoff iawn o gynulliadau y saint, fel nad oedd ei le yn wag braidd un amser yn yr addoliad. Ac yr oedd mor hoff o weinidogion a gweinidogaeth y gair fel y byddai yn aml yn ymweled â Throedrhiwdalar, Delaware, Columbus a Newark yn amser y Cymanfaoedd a Chyfarfodydd Chwarterol.
Ac yr oedd yn cael budd ac adeiladaeth i'w enaid yn yr ymarferiad â moddion gras. Ond yn ei gymydogaeth ei hun yr oedd ei wir gymeriad yn amlygu ei hun. Yr oedd yn hynod o ddistaw a didramgwydd. Er ei fod ar ôl marwolaeth ei briod yn lletya mewn gwahanel fanau, ni chlywyd ef erioed yn dywedyd gair am neb a fyddai a thuedd ynddo i beri cynhen ac ymrafael yn mysg ei frodyr a'i chwiorydd crefyddol, na neb arall.
Bu o wasanaeth neillduol yn y gymdeithas grefyddol yn Delhi. Bu yn llenwi y swydd ddiaconaidd am flynyddau lawer, er anrhydedd iddo ei hun ac i achos crefydd.
Ond yn awr y mae wedi myned oddiwrth ei waith at ei wobr. Yn mis Hydref 1865, ymosodwyd ar ei gyfansoddiad gan glefyd y gwaed, a chafodd yr ymgeledd dyneraf a ellid weinyddu iddo yn nhy Mr. David T. Jones a'i briod. Ond er eu holl diriondeb, methasant ag arbed ei fywyd, fel ar y 12fed o Hydref, 1865, ehedodd ei enaid i'r anfarfol fyd o afael pob llygredd a phoen. Daiarwyd ei ran farwol yn nghladdfa Delhi, a gweinyddwyd yn y gladdedigaeth gan y brawd J. Davies a'r ysgrifenydd.
R. POWELL.