MR. JOHN WILLIAMS. FLOYD, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Hydref 26ain, 1865, yn Floyd, Sir Oneida, Caerefrog Newydd, John Williams, yn 63 mlwydd oed.

Tua thair wythnos fu ei gystudd, a'r rhan o'r afiechyd a brofodd yn angeuol iddo ydoedd y Gwddfbydredd. Arferai fyw yn agos i Delta hyd y Gwanwyn diweddaf.

Ymfudodd ef a'i deulu i'r wlad hon o Laniestyn, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn 1852. Yr ydoedd yn briod caredig, yn dad gofalus, yn gyfaill ffyddlon, yn gymydog cymwynasgar, ac yn ddyn gonest; ac oblegid hyny perchid ef gan y rhai a'i hadwaenai. Claddwyd ef yn nghladdfa Westernville, lle y gorwedd dwy o'i ferched, a gadawodd weddw a thri o blant yn fyw ar ei ôl.
J. H. JONES.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Rhagfyr 1865.