MRS. MARGARET WILLIAMS. SANDUSKY, CATTARAUGUS, NEW YORK.
Diau fod rhoddi cyhoeddusrwydd i rinweddau a rhagoriaethau y ffyddloniaid hyny a aethant adref i'r orphwysfa, yn un o ddyledswyddau eglwys Dduw. Dyna un ffordd i'w cael er "wedi marw yn llefaru eto." Mae gogoniant Duw a lles y byw, yn hawlio y deyrnged hon - gogoniant Duw yn cael er amlygu yn arwain, yn cynal, ac yn dyddanu, a'r byw yn cael ei lesoli wrth ddarllen am eu ffydd gref, eu profiad goleu, a'u mynediad buddugoliaethua trwy angau, nes creu ynddynt awydd cryfach i ddilyn eu llwybrau, i ymofyn am yr un profiad, ac ì fod yn ddiwyd nes cael gafael arno.Os iawn i bìant y byd hwn yw ymgynhyrfu i godi cof-golofnau i'r teyrn doeth, y milwr dewr, y gwleidiadwr medrus a gonest, oni ddylai plant y goleuni godi bywyd a marwolaetb teulu yr Oen yn gof-golofnau i'r holl genhedlaethau trwy yr holl oesau.
Yr oedd gwrthrych y cofiant hwn yn ferch i Mr. Lewis a Lowry Roberts, Ty'n ngelog, Aberdaron, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, lle a fu yn gartref cysurus i lawer o weinidogion hynaf y Wesleyaid am lawer o flynyddau.
Dechreuodd ei gyrfa grefyddol yn ieuanc, pan rhwng 13 a 14 mlwydd oed, a dyma y rhai yn gyffredin sydd a bywyd gwerth i'w gofnodi; derbyniwyd hi yn gyflawn aelod gan y Parcb. John Jones, yr hwn oedd y pryd hyny ar Gylcbdaith Pwllheli.
Edrychid y pryd hyn yn lled isel a dirmygus ar y bobl a elwid y Wesleyaid, ac yr oeddynt yn sect y dywedid yn mhob man yn eu berbyn, ac yr oeddynt o ran rhifedi yn fycban iawn; yn enwedig yn nghymydogaeth Aberdaron - a thrwy hyny cafodd ein chwaer lawer o groesau a llawer o wawd trwy ei gwaith yn ymuno â'r bobl hyn. Ond daliodd bob ystorm ac ni wyrodd ei phen erioed er cael ei galw yn "Wesla." Yr oedd o feddwl cryf a dawn parod, fel yr oeddyn alluog i flaenori Society lawer gwaith gan roddi y cynghorion addasaf i'w chyfeillion eglwysig; ac yr oedd hi ac eraill o'i chwiorydd crefyddol yn arfer cynal cyfarfodydd gweddio, a deuai llawer i'w gwrando er mwyn cywreinrwydd, clywed merched yn gweddio yn gyhoeddus, ac eraill a wawdient y fath beth; ond hyn sydd yn mhlith pethau a fu, fel y mae yn lled gyffredin yn awr fod chwiorydd yn gweddio yn gyhoeddus.
Yn y flwyddyn 1812 ymunodd mewn glân briodas gydag un William E. Williams, Pwll y cyw; ac wrth yr enw yna yr adwaenid hwy yn y wlad hon. Buont byw yn y lle a nodwyd am 20 mlynedd. Gwelodd gryn dywydd gyda'r achos yn Bryn caled, Aberdaron, trwy waith y bobl hyny a elwid y "Wesley bach" yn gwneud rhwygiadau yn yr eglwysi, ond glynodd yn ffyddlon wrth ei phroffes.
Yn y flwyddyn 1832 ymfudasant i'r wlad hon (America) a sefydlasant yn ardal Holland Patent am 14 o flynyddoedd. Y pryd hyn arferai hi a'i phriod gyrchu i ysgoldy yn agos i Trenton, lle cynelid moddion crefyddol gan y Wesleyaid, a lluosog iawn yw y tystiolaethau sydd genym o'i ffyddlondeb diball, o'i phrofiad gloyw a'i sel gynhes dros achos ei Harglwydd y pryd hyny.
Symudasant drachefn i Cattaraugus lle y bu hi yn byw am 18 mlynedd ac ychydig fisoedd, a thrwy nad oedd achos crefyddol gan y Wesleyaid yn y lle hwn, ymunodd hi a'i phriod ag eglwys yr Annibynwyr lle y bu yn aelod deilwng a diddolur hyd ei bedd. Nid oedd hi fel llawer a gewch yn cael ei llywodraethu gan sel sect ynfyd a pbenboeth. Clywch ddywediadau ei phriod ar y mater. Wele hwynt yn ei eiriau plaen ef ei hun. "Un ryfeddach na llawer oedd fy hen wraig i. Nid oedd yn malio llawer pwy fyddai yn tendio'r bwrdd, os byddai arno Oen y pasc, sef Crist ein Pasc ni, byddai yn sicr o gael tamaid i'w henaid; byddai bob amser wrth ei bodd, pa un bynag ai Wesley, Methodist, Annibynwyr neu Fedyddiwr fyddai y Cogydd - ni wnai ddim gwahaniaeth - gwyn fyd na byddai mwy o'i bath,"
Rhinwedd arall prydferth a berthynai i'r chwaer hon, oedd ymneillduaeth i'w hystafell ddirgel. Dywed ei phriod fod ganddi ei horiau penodol i hyn. Codai o'i hen gadair ar yr un amser bob dydd ac âi yn dawel i ystafell arall, ac ar ei gliniau, ymaflai yn addewidion ei Duw, nes tynu y nefoedd i'w henaid, ac amlygai ar ôl dyfod yn ôl fel un wedi cael ysglyfaeth lawer. Yn y dirgel yr oedd cuddiad ei chryfdwr; yma'r oedd twr ei harfau, ac yma'r oedd hithau yn eu gloywi, derbyniai fara Duw i'w henaid, a dwfr o'r graig i'w disychedu, a gras y nef i'w chynal a'i chysuro mewn henaint a'i gwneud yn gref i farw; trwy ei bod mor hoff o'r dirgel nid rhyfedd ei bod yn cael ei thalu yn yr amlwg, a bod iddi glod gan bawb a chan y gwirionedd ei hun, er yn ddiau nad oedd heb ei ffaeleddau a'i cholliadau yn y byd sydd yr awr hon.
Yn haf y flwyddyn cyn ei marwolaeth bu yn lled wael, a'r gauaf dilynol yn waelach lawer, ond gwellhaodd ychydig yn nechreu yr haf diweddaf. Ychydig amser cyn ei marwolaeth daeth ei mab yn nghyfraith Mr. John Wiggins i'w cyrchu yno ar ymweliad; a phrydnawn y dydd hwnw tarawyd hi yn glaf. Gwellhaodd ychydig erbyn bore dranoeth; ond ar yr un amser yn y prydnawn aeth yn salach o lawer. Cafodd ei tharo gan y Gwaedlif (Dysentery). Heb oedi ymofynwyd am feddyg, a daeth yno; ond o herwydd gwaeldra blaenorol dywedodd y meddyg ei farn yn onest nad oedd yno sylfaen i weithredu (No foundation to work on). Yn ngwyneb hyn clywch ddywediadau ei hanwyl briod. Os nad oedd foundation i weithio arni ei fod yn credu fod ganddi foundation gref o dan ei henaid. Er bod yr afon yn o lydan nid oedd yn ddofn iawn, canys yr oedd yno gerrig sarnau dan ei thraed, sef addewidion cedyrn ei Duw. "Pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau nid ofnaf niwed."
Ychydig wedi haner nos Nos Lun, y 25ain o "Fedi, cafodd wasgfa drom. Ar ôl dyfod o honi gwaeddodd dros y lle, "O Iesu! O Iesu anwyl! Y mae hi yn braf arnaf fi, ie yn braf iawn."
Aeth adref yn esmwyth, diffoddodd yn ddigynwrf, aeth ei llestr i'r hafan heb fawr o ystorm, a glaniodd yn gysurus ar fryniau heulog y Gaersalem Newydd ar y 26ain o fis Medi, 1865, yn 70 mlWydd oed, wedi bod yn ngwinllan ei Harglwydd am 56 o flynyddoedd - mawr allu gras y nef i gynal y pererinion.
Gadawodd briod ocdranus ac wyth o blant yn yr anialwch i alaru am briod a mam ofalus.
Dydd yr angladd ymgasglodd tyrfa fawr o Gymry a Saeson er dangos parch iddi hi a'i theulu, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y brodyr J. W. James (B.) a W. Thomas (A.) Remsen, Awst 1af, 1866.
THOMAS THOMAS.