MRS. ANN DAVIES. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Chwefror 18fed, 1866, Mrs. Ann Davies, o blwyf Remsen, wedi cyrraedd yr oedran mawr o 87 neu 88 mlwydd o'i hoedran.

Brodor ydoedd o ger Dolgelley, ac adnabyddid hi gan lawer wrth yr enw Ann Davies, Dolgelley.

Yr oedd ei blynyddau olaf yn rhai "heb ddim diddanwch ynddynt," trefn ei meddwl wedi colli, ac yn wrthrych gofal a thosturi eraill yn gwbl, a'r gofal hwnw a gyflawnwyd yn ffyddlon iawn hyd ei hangan gan deulu Richard Owen ei mab yn ngbyfraith a'i merch Ellen.

Yr ydoedd yn arfer bod yn un heini, bywiog a ffraeth hyd ddiareb. Gwnaeth broffes o grefydd am lawer o flynyddau yn yr hen wlad a'r wlad yma.

Buodd yn weddw am tua 27 mlynedd. Gadawodd rai plant a llawer o wyrion i alaru ar ei hol. Claddwyd hi yn Penycaerau - gweinyddwyd gan y Parch. Mr. Annable a'r ysgrifenydd.
MORRIS ROBERTS.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mawrth 1866.