MR. JOHN DAVIES. GAREG WEN, COLUMBUS, WISCONSIN.

(NEU FEL Y DYLESID EI ALW - JOHN D. JONES.)

Mab ydoedd i Mr. David ac Elizabeth Jones, Gareg wen, Llanberis, yn Arfon, Gogledd Cymru.

Ganwyd ef yn y flwyddyn 1800. Bu am yr ugain mlynedd cyntaf dan nawdd ei rieni, yna bu raid iddo yn lle ei rieni ofalu am y teulu.

Priododd pan oedd tua 40 mlwydd oed, â Jane, merch Morris Jones, Llanrug. Ymfudodd i America yn y flwyddyn 1845, a daeth rhag ei flaen i'r ardal hon, lle bu hyd ddydd ei farwolaeth.

Collodd ei briod tua dwy flynedd a haner yn ôl, ac anfynych y cafodd neb fwy o golled am briod, er y credwn ei bod hi yn llawer iawn gwell.

Bu ganddynt 5 mab a 6 merch; bu y ferch hynaf ond un farw yn Racine, yn fuan wedi glanio, a hono yr unig blentyn oedd gyda hwy; gan y gadawsant yr hynaf yn yr Hen Wlad gyda'i hewythr. Mae y 10 ereill yn fyw, a'r oll erbyn hyn yn y wlad hon - nid yw yr ieuangaf ond dwy flwydd a haner oed. Yr oedd yn wael ei iechyd er mis Awst diweddaf - ei brif afiechyd oedd Gwalldreuliad. Dyoddefodd ei gystudd yn dawel hyd y diwedd. Bu ei blant ac ereill yn ofalus iawn mewn cysylltiad â'r meddyg, i roddi pob cynorthwy a allent iddo yn ei gystudd.

Bu farw Ionawr 12fed, 1866, yn 66 mlwydd oed. Claddwyd ef ar yr 16eg, yn mynwent Bethel. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan yr ysgrifenydd.

Yr oedd ei rieni yn grefyddol - ei dad yn ddiacon gyda'r T. C yn y Capel Coch, ond ni chafodd ef ei ddwyn i fyny yn yr eglwys, mwy na phlant ereill y dyddiau hyny. Byddai yn dyweyd ei hanes yn ddigrifol, fel y byddai yn myned 'noson y Seiat' at y capel yn gydymaith i'w dad, ac yn gwarchod tŷ y capel - ac fel yr ymollyngai i gysgu, a'r 'uwd,' erbyn eu dyfodiad allan, yn berwi i'r tân, a'r tân wedi diffodd.

Dechreuodd broffesu crefydd yn y Capel Coch pan oedd tua 18 mlwydd oed. Dewiswyd yntau (ni wyddom pa bryd), yn ddiacon gyda'r T. C. yn Rehoboth, canghen o eglwys y Capel Coch; a bu yn ddiacon yn eglwys Bethel, yn yr ardal hon, o'i ddyfodiad atom hyd angau.

Meddianai hynodion fel dyn a chrefyddwr, yn werth eu cadw ar lyfr, a'u hystyried. Nid ydym yn honi ei fod yn berffaith, nac yn agosaf i hyny yn mhob ystyr; gwyddom am wallau neillduol ynddo, fel y cyffredin o honom. Nid doeth pigo a dangos y rhai hyny, hyderwn fod y Nefoedd wedi eu cuddio. Ond yr oedd ei rinweddau yn fwy amlwg, heblaw eu bod yn fwy gwerthfawr i'w cofio. Bu yn ddiwyd iawn gyda moddion gras, yn enwedig gyda'r Ysgol Sabbothol, ac nid dilyn y cylch allanol yn unig y byddai, ond yr oedd yn hyddysg iawn yn yr ysgrythyrau, yn un o'r rhai penaf felly a welsom yn ein hoes. Yr oedd ei gôf yn gryf, a bu ei ymdrech yn fawr; a llwyddodd hefyd i raddau helaeth, trwy ddarllen a myfyrio yn ddwys, i ddeall cysondeb a chyfeiriad y gwirionedd.

Yr oedd yn weddiwr sylweddol, dyfal a thaer; pa fwyaf ystyriem ac a bwysem ar ei bethau, goreu oll yr ymddangosent, a rhoddai dystioiaeth yn ein cydwybodau yr ymdrechai â'r Nefoedd. Yr oedd yn hynod hefyd mewn sefydlogrwydd. Gwyddom y camarferai hyn weithiau, ac hwyrach fod hyn yn un o'i brif ddiffygion. Nid oedd, feddyliem, yn ddigon parod i symud gyda chyfnewidiadau da, ond yn rhy dueddol i ymlynu wrth yr hen, boed wael, boed wych; ac nid rhyfedd, felly mae rhai tebyg iddo yn wastad; ond tystiai pawb ei fod yn gydwybodol ac unplyg - gwyddem ar unwaith pa ochr y byddai ef gyda phob mater, ac felly yn haws i'w oddef pan fyddai yn methu, na gochelgarwch gwlanenaidd, na wyddem yn mha le i'w geisio.

Yr oedd ei gydwybodolrwydd a'i onestrwydd uwchlaw amheuaeth; ac nid oedd ei gamarferiad o'i sefydlogrwydd ond eithriadau yn ei oes; yr oedd ei sefydlogrwydd yn gyffredinol mewn barn ac ymarweddiad yn goron arno. Yr oedd wedi ei wreiddio a'i gadarnhau yn y ffydd, ac ni fynai ei symud oddiwrth obaith yr Efengyl. Bu yn araf a phwyllog yn nghychwyniad ei grefydd, er iddo ymaflyd ynddi ar adeg diwygiadau grymus.

Bu farw fel y bu fyw, yn ddigynhwrf, sefydlog a thawel, gan ymddiried ar yr hen sylfaen y pwysai arni trwy ei fywyd, "yr hwn a osododd Duw yn Iawn" - y cyfammod tragywyddol yr ymddyfyrai gymaint yn ei fywyd yn syllu ar ei ryfeddodau dyfnion. Teimlai gryfder trefn gras yn ei ddal yn ystormydd angau. Pa mor anhyblyg a sefydlog bynag ydoedd ein brawd o duedd naturiol, tarawodd ar drefn mor sefydlog ag yntau, nad oedd raid iddo newid ei feddwl am dani yn ngolwg tragywyddoldeb, a'r hon na newidiodd tuag ato yntau.
JOHN J. ROBERTS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mawrth 1866.