MRS. HANNAH EVANS. WEST BANGOR, PENNSYLVANIA.
Ganwyd gwrthddrych y sylwadau hyn yn Mhen yr Allt, Waenfawr, Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1807.Nis gwyddom a gafodd ei magu yn yr eglwys ai peidio. Beth bynag, cafodd ei dychwelyd at grefydd yn fuan ar ôl priodi, pan yr ymunodd hi a Mr. Griffith Evans, ei phriod, âg eglwys y T. C. yn y Waenfawr; a pharhaodd yn aelod dichlynaidd a ffyddlon hyd derfyn ei hoes, am 36 mlynedd.
Hanai Mrs. Evans o un o'r teuluoedd â ymunodd â'r Methodistiaid gyntaf yn y Waenfawr, ac a fu yn achles a chynorthwy i'r achos yno yn ei gychwyniad. Rhoddodd yr Arglwydd brawf ynddi hi ei fod yn Geidwad cyfammod a thrugaredd - ei fod yn Dduw i'w bobl, ac i'w hâd yn mhob oes.
Symudodd o'r Waenfawr yn mhen tuag wyth mlynedd ar ôl priodi, i Lanberis, ac oddi yno y symudasant i America, yn 1855.
I'rr gymydogaeth yma y daethant gyntaf, ac yma maent wedi aros hyn yn hyn. Cawsant brofedigaeth chwerw ar eu dyfodiad i'r America. Yn lle cyfarfod, Evan eu mab, ar eu dyfodiad i'r gymydogaeth, fel yr oeddynt yn dysgwyl, yr oedd wedi marw tuag wythnos cyn eu glaniad yu Philadelphia. Rhoddodd y siomedigaeth alarus archoll ddofn a pharhaus ar deimlad y rhieni oedranus. Cawsant ar ddeall yn union nad oedd iddynt yn America, mwy nag yn Nghymru, ddinas barhaus.
Nos Sadwrn, yr 8fed o Hydref, bu farw Mrs. Evans, ar ôl ond ychydig ddyddiau o afiechyd. Ei chlefyd oedd y Darymrediad. Dyoddefodd eì phoenau yn dawel, yn yr ymwybodrwydd fod awr ei hymddatodiad yn nesau. Canai amryw ddarnau o hen hymnau Wllliams, Pant y celyn, ac adroddai amryw adnodau o'r Beibl. Ond y peth penaf â goffäi oedd testyn pregeth a wrandawodd boreu Sabboth cyn cael ei chymeryd yn sâl - "Gwneler dy ewyllys megys yn y nef, felly ar y ddaiar hefyd," yn nghyd ag amryw o'r sylwadau a wnaed oddi wrtho. Onid oedd hyn yn rhyw beth tebyg iawn i agwedd meddwl Iesu Grist ei hun yn ei awr ddiweddaf. "Eithr nid y peth yr wyf fi yn ei ewyllysio, ond y peth yr ydwyt ti." Y gair diweddaf ddaeth dros enau Mrs. Evans oedd, "Gwneler dy ewyllys."
Gadawodd briod oedranus, a chwech o blant ar ei hol, y rhai sydd i gyd yn teimlo yn fawr eu colled am dani. Er iddi hi a'i phriod fagu eu plant yn yr eglwys, medrodd, a mynodd dau o honynt eu ffordd allan. Pryder poenus ei meddwl wrth fyned i farw oedd, fel Abraham gynt, "O na byddai fyw Ismael ger dy fron di."
Buasai yn haws ganddi ymollwng i farw pe buasai ei phlant i gyd yn proffesu Enw y Gwaredwr hwnw yr oedd hi wedi bod yn ceisio rhoddi ei hun iddo lawer gwaith, ac yn myned i roddi ei hun, enaid a chorff, i'w ofal am y tro olaf am byth. Pwy a wyr na fendithia yr Arglwydd ei hangau hi i fod yn fywyd i'w phlant.