MR. ROBERT EVANS. MARCY, HOLLAND PATENT, NEW YORK.

Rhagfyr 30ain, 1866, yn Marcy, ger Holland Patent, New York, yn 47 mlwydd oed, o'r Dwymyn Typhoid, Mr. Robert Evans.

Brodor o yn agos i Bwllheli, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, ydoedd, ac yn fab i John ac Elinor Evans. Ymfudasai i'r wlad hon yn y flwyddyn 1845, ac ymsefydlodd yn ardaloedd Remsen, lle y treuliasai y rhan fwyaf o'i ddyddiau. Ymunodd mewn priodas yn 1847, gydag Ann Jones, merch John Pritchard, Perthog, plwyf Abeiliog, Môn.

Bu iddynt naw o blant, o'r rhai y mae saith yn fyw i alaru eu colled am dad tyner a gofalus iawn, sef chwech o feibien ac un ferch. Ymunodd y brawd â chrefydd yn Remsen, tua 17 mlynedd yn ôl. Treuliodd 8 o honynt mewn undeb a'r T. C. yn Holland Patent, lle hefyd y gorphenodd ei yrfa ar y ddaiar. Fel dyn, yr oedd yn dawel a diabsen bob amser.

Fel crefyddwr, yr oedd yn hynod hawddgar; yr oedd yn ufudd a gweithgar; byddai yn barod i wneyd a allai yn ddirwgnach a diymffrost. Byddai ei brofiad beunydd yn brofiad pechadur yn dysgwyl ei fywyd yn Aberth y groes; nid siarad rhyw beth a wnai, ond dyweyd ei brofiad. Fel y bu fyw y bu farw.

Cafodd yr ysgrifenydd fod wrth ei wely pan yn cefnu ar y fuchedd hon, a gellir dyweyd am dano, "Ni frysia yr hwn a gredo." Bu farw a'i bwys yn gwbl ar ei Anwylyd. Ionawr 2ail, hebryngwyd ei ran farwol i gladdfa Holland Patent gan dyrfa fawr o gyfeillion a pherthynasau. Dodwyd ef yma yn ochr ei ferch fechan a'i blaenasai.

Gweinyddwyd ar yr adeg gan yr ysgrifenydd.
R. FOULK JONES.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Awst 1867.