MR. GRIFFITH M. GRIFFITHS. BRYNCROES, COLUMBUS, WISCONSIN.

Mai 13eg, 1866, yn Bryncroes, Columbus, Wisconsin, Mr. Griffith M. Griffiths, priod Mrs. Catherine Griffiths, Shop Bodffordd, Môn, Gogledd Cymru, a mab Mr. Griffith a Catherine Morris, Bryncroes.

Ei glefyd oedd Curiad y Galon. Yr oedd yn 23 mlwydd oed er Rhagfyr 27ain, wedi bod yn briod am ychydig dros ddwy flynedd.

Ymfudodd gyda'i rieni i'r wlad hon o Bryncroes, Clynog, Arfon, Gogledd Cymru, 20 mlynedd yn ôl. Cafodd y fraint o'i fagu gyda chrefydd, ac o ddal ati hyd y diwedd. ac yn hollol ddiddolur i'r eglwys. Yr oedd yn hynod ddystaw, ac heb ddangos ei hun mewn dim. Ymddengys fod crefydd yn trin llawer ar ei feddwl trwy y blynyddoedd, ac yn cynnal ei ysbryd yn ei glefyd. Ofnir fod yr eglwys wedi cymeryd achlysur yn ei ddystawrwydd i fod yn rhy ddisylw o hono. Dylem gofio nad yw tawedugrwydd yn profi nad oes ysbryd mewn dyn.

Cwynai at ei ddiwedd y buasai yn dda iawn ganddo pe cymhellasai ei frodyr fwy arno i dori trwodd i dywallt ei feddwl iddynt. "Ond," meddai yn gysylltiedig â hyny, "mae genyf le gwell, a gallaf fod yno yn rhydd." Tystiai wrth ei briod ddeuddydd cyn ymadael, ei fod yn cael golwg newydd ar Iesu Grist - ei fod yn foddlawn i farw, pa fodd bynag y byddai iddi hi a'r eneth fach, y byddai yn llawer iawn gwell iddo ef. Mor ragorol ein hefengyl, yn cysuro pob galarus, yn gweinyddu y bendithion gwerthfawrocaf i'r mwyaf gwylaidd, ag sydd yn llithro trwy y byd allan o sylw pawb.

Dranoeth hebryngwyd ei gorff i fynwent Bethel, Columbus, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan yr ysgrifenydd.
J. J. ROBERTS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Medi 1866.