MR. GRIFFITH J. GRIFFITHS. STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Awst 9fed, yn Steuben, swydd Oneida, New York, Griffith J. Griffiths, yn 74 mlwydd oed. Yr oedd yn enedigol o blwyf Llangian, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.Ymfudodd i'r America yn y flwyddyn 1818.
Gellir ystyried y ddwy flynedd ddiweddaf o'i oes fel adeg dadfeiliad graddol ei gyfansoddiad; ond ymddangosai y tŷ o bridd fel yn dyfod i lawr beth yn gyflymach yn ystod y deg wythnos olaf o'i fywyd. Yr oedd ei briod, Ann Grifflths, wedi ei ragflaenu i fyd yr ysbrydoedd er's 15 mlynedd. Gwel y Cenhadwr am Tachwedd, 1851, tudalen 341.
Erbyn heddyw, y mae eu plant, 8 mewn rhifedi, wedi eu gadael yn amddifaid o dad a mam. Yr ystyriaeth o hyn a dyn y deigryn gloyw dros y grudd lawer tro, o herwydd yr oeddynt yn rieni gofalus iawn am danynt a thirion iawn wrthynt.
Claddwyd ef wrth ochr ei briod yn mynwent y Capel Isa', Steuben, a gweinyddwyd gan y brodyr Thomas Thomas, D. J. Williams a R. Everett.