MRS. ANN MORRIS, UTICA, ONEIDA, EFROG NEWYDD.
Cafodd Mrs. Morris ei geni o riaint duwiol. Eu henwau yw Lewis ac Ann Lewis, gynt o'r Ynys, plwyf Penal, swydd Feirion, Gogledd Cymru.Daethant trosodd i'r wlad hon yn mis Awst, 1818. Cyfeiriasant eu camrau i Trenton, swydd Oneida, C. N., yn yr hwn le y maent eto yn trigiannu.
Yn y flwyddyn ganlynol i'w dyfodiad i'r wlad hon, gwelodd Duw yn dda ddwyn Mrs. Morris i adnabyddiaeth o'i chyflwr euog a thruenus fel pechadures, (yr ydoedd y pryd hyn oddeutu 14 oed.)
Derbyniwyd hi yn aelod o'r Eglwys Gynnulleidfaol, yn Utica, o ba un y bu yn aelod hardd, didramgwydd, a chymeradwy hyd ddydd ei marwoiaeth.
Ar y 18fed o fis Medi, 1824, ymunodd mewn glân briodas â David E. Morris, gynt o Lanfyllin, Gogledd Cymru, brawd i'r Parch. J. Morris, Main.
Ganwyd iddynt wyth o blant - pump o honynt sydd yn awr yn fyw. Bu yr undeb rhyngddynt yn hynod o felus a chysurus.
Ond o'r diwedd daeth 'Brenin Braw' heibio, ac a gymerodd ei anwyl briod o'i fynwes. Ac wele ef yn awr dan ei hiraeth trwm yn galaru ei golled fawr o wraig dyner, garedig, a duwiol.
Yr oedd yn ddynes gall, o aJluoedd cryfion a threiddgar - o dymher bwyllog ac arafaidd - ei hyfrydwch oedd dangos carìad - ei thueddfryd oedd dirion, caruaidd, a mwyoaidd iawn.
Collodd eí híechyd yn fawr am rai o flynyddoedd olaf ei heinioes. Dyoddefodd gystudd lled boenus o bedwar i bum mis (ond ni bu yn cadw ei gwely ond un mis) gyda gwrolder Cristionogol, heb lefaru yn galed yn erbyn yr Arglwydd, eithr ymroddi ac ymostwng i'w ewyllys ef. Rhoddodd i fyny yr Ysbryd, a gorphenodd ei gyrfa y dydd nodedig, yn 36 mlwydd a 3 mis oed.
Awd a'i chorph i gapel yr Annibynwyr gerllaw, lle yr ymgynnullodd tyrfa fawr o bobl.
Anerchwyd gorsedd gras gan y Parch. S. A. Williams, Deerfield, a phregethodd y Parch. Robert Everett, Steuben, a'r Parch. James Griffiths, Utica yn Gymraeg, mewn modd dwys a difrifol iawn; a dybenwyd y cyfarfod trwy weddi gan y Parch. Wm. Rowlands, Utica.
Yna hebryngwyd ei rhan farwol gan nifer luosog o bobl, a rhoddwyd i lettya yn nhý angeu, yn mynwent Utica.