MR. JOHN W. GRIFFITHS. CALAMUS, DODGE COUNTY, WISCONSIN.

Hydref 8fed, 1866, o'r Dwymyn Typhoid, Mr. J. W. Griífiths, tad William a Edward Griffiths.

Claddwyd hwynt yn mynwent Salem; y brodyr cartrefol yn gweinyddu yn y claddedigaethau.

Symudodd Mr. Griffiths a'i deulu i'r wlad hon ddeuddeng mlynedd i'r hâf diweddaf, o Ben-y-cefn, ger Caernarfon, Gogledd Cymru, ac ymsefydlodd yn y gymydogaeth uchod, lle y mae Mrs. Grifiiths a'i hunig ferch yn aros eto, mewn hiraeth a galar ar ôl ei phriod a'i dau fab.

Tad yr amddifaid, a Barnwr y gweddwon â ofalo am danynt. Troion chwerwon a dyeithr oedd y rhai hyn yn ein cymydogaeth. Galwad uchel arnom fel ardalwyr i fod yn barod, "canys yn yr awr nì thybiom y daw Mab y dyn.
D. R. WILLIAMS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Awst 1867.