MRS. ELINOR HUGHES. PORTAGE PRAIRIE, CAMBRIA, WISCONSIN.

Tachwedd 15fed, 1865, yn 38 oed, Ellen, merch i Mr. Hugh Hughes, gynt o'r Carneddi, ger Bethesda, Sir Gaernarfon, a phriod Mr. Hugh J. Hughes, Portage Prairie, ger Cambria, Wisconsin, gynt o Pantperthog, ger Corris, Sir Feirionydd.

Claddwyd hi ar y 18fed yn mynwent Berea, lle y gweinyddodd chwech o frodyr yn y Weinidogaeth; a Chwefror 11eg, 1866, gwnawd sylwadau ar yr un achlysur gan yr ysgrifenydd oddiwrth 2Cor.iv.17.

Cafodd y chwaer uchod gystudd a gofid blin am naw mlynedd, fel y synai pawb a'i hadwaenai at ei hamynedd a'i dyoddefgarwch, ac at ddybenion ei Thad nefol yn ei chynnal mor faith yn ei gwaeledd dirfawr, dan holl driniaethau y meddygon, pan y rhedai ei hafiechyd allan yn nghyd a darnau o'i hesgyrn trwy weliau dyfnion yn ei chorff, ac yr oedd ei chefn poenus yn peri blinder diorphwys iddi.

Bu gofal tyner a manwl ei ffyddlon briod yn gysur iddi yn ei gwendid, yn nghyd a'r aml gordial a fwynhäi ei henaid o drysor gelloedd y Gair Dwyfol.

Ymdrechodd uwchlaw ei gallu lawer gwaith i fyned i foddion gras yn ei hafiechyd. Cafodd bleser mawr ynddynt a theimlai ei cholled yn fawr yn ei hymddifadrwydd o honynt. Bu yn hynod groesawgar i weision yr Arglwydd, ac yn hael at ei achos bob amser; a'i hyfrydwch penaf yn ei chystudd oedd mwynhau ymweliadau ei chyfeillion crefyddol, a llawer gwledd nefol a fwynhawyd wrth ei gwely, wrth ei chyflwyno i'w Thad a'i Gwaredwr, a chofio ei angau drud. Cyfansoddodd amryw bennillion yn ei chystudd; ond yr oedd ei phrofiad gwastadol bron yn gynnwysedig yn yr hen bennill hwnw:

" O cymer fi, Iesu, fel yr wyf,
A chuddia fi yn dy farwol glwyf," a.y.

Adroddodd hwn ganoedd o weithiau, yn enwedig yn ei dyddiau olaf. Felly suddodd yn arafaidd yn yr Iorddonen, ac aeth drwodd, ni a hyderwn, a'i phwys ar ei Hanwylyd, a

"Bydd yn ei law yr ochr draw,
Heb friw na braw ryw ddydd a ddaw.
Uwchlaw pob loes a chlwy'."
D.P.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mai 1866.