MR. WILLIAM R. HUGHES. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Ionawr 31ain, 1866, yr henafgwr William R. Hughes, ger Bethel, Remsen, wedi cyraedd yr oedran yn agos i 88 mlwydd.Ymfudodd ef a'i deulu o Tan'rallt, plwyf Abereirch, ger Pwllheli, yn y flwyddyn 1831, a sefydlodd yn ardal Bethel, plwyf Remsen, ei holl amser yn y wlad hon.
Ymunodd â chrefydd Crist yn flwyddyn 1838, a buodd ffyddlon hyd angau, er ei fod o dan anfanteision, heb fedru darllen ac yn hen mewn ystyr cyn dechreu crefydda, ond cofiai lawer o'r Beibl a Hymnau, ac adroddai lawer o'r cyfryw yn ei weddiau ac wrth adrodd ei brofiadau.
Yr oedd gwaeleddau a gwendidau henaint, wedi ei ddal er's llawer blwyddyn, eto ymlwybrodd lawer i'r capel gyda'i ffyn a baglau; ei glyw yn drwm a'i olwg yn pallu. Ond.pan glywai, cai eraill ei glywed yntau yn llon gymeradwyo yr hyn a leferid am Grist, ei Anwylyd. Ond nis gwelir ef mwy yn dringo grisiau y capel nac un man arall.
Ond gadawodd yn mhell o'i ôl gystuddiau o bob rhyw. Gadawodd yn weddw ei hen wraig sydd oddeutu 90 mlwydd oed, wedi bod tua 65 mlwydd yn cydfyw. Ond daeth angau ac a dorodd y briodas, a meibion a merched a llawer o wyrion a ffryndiau i alaru ar ei ôl.
Claddwyd ef yn Bethel a gweinyddwyd gan y Parch. W. Robinson, Alder Creek, yn Saesneg a'r ysgrifenydd yn Gymraeg.
MORRIS ROBERTS.