MR. ROBERT HUMPHREYS. EMMETT, WISCONSIN.
Rhagfyr 28ain, 1866, yn Emmett, Wisconsin, Mr. Robert Humphreys, yn 41 mlwydd oed; gadawodd briod a nifer o blant i alaru ar ei ôl.Daeth i'r wlad hon 16 mlwydd yn ôl o Lanfihangel y Pennant, Gogledd Cymru.
Yr oedd yn aelod gyda'r Annibynwyr ers llawer o flynyddoedd, yn dad tirion a gofalus, yn gymydog hawddgar a da, teimlir colled ar ei ôl, fel tad gan y teulu - fel cymydog gan yr ardal - fel Cristion gan yr eglwys, - gweinyddwyd gan yr ysgrifenydd.
G. R. EVANS.