MRS. ANN LEWIS JONES, PROSPECT, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Gweddw James R. Jones (1794-1865).James Jones a adnabyddid yn gyffredin fel James Jones, Y Ffatri, oherwydd iddo fod yn byw yn Ty Cerrig, oedd yn gysylltiedig a ffatri wlan Penycaerau.
Ymfudodd i America yn 1818, a sefydlu ar fferm yn ardal French Road, Steuben.
Yn fuan ar ôl cyrraedd America priododd gyda Ann Lewis, merch Evan ac Elinor Lewis, Fachwen, Rhoshirwaun, ble 'roedd Evan Lewis yn gweithio fel gof. Bedyddiwyd Ann yn Eglwys Sant Hywyn, Aberdaron ar 7/4/1786. Yr oedd Ann a rhai o'i theulu wedi ymfudo i America yn 1818 hefyd, ar yr un llong a James Owen, Penycaerau a llawer arall o Lyn.
Ganwyd iddynt chwech o blant yn America ac yr oedd dau o'u meibion Jesse a Richard yn gweithio gartref ar y fferm gyda'i rhieni.
Tua 1860 symydodd y teulu o ardal French Road i fferm ym mhlwyf Trenton.
Bu James R Jones farw ar 3ydd Fedi 1865 yn 70 oed.
Bu Ann Lewis Jones farw ar 3ydd Ionawr 1866 yn 76 oed.
Mae gweddillion y ddau ac hefyd Jesse eu mab wedi cael eu claddu ym mynwent Prospect.