MR. DAVID JONES. WELSH PRAIRIE, WISCONSIN.

Ionawr 28ain, 1866, yn Welsh Prairie, Wisconsin, yn 31 mlwydd a 9 mis oed, Mr. David Jones, Coedty.

Ganwyd ef yn mhlwyf Llanbedr, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, ond o blwyf Gyffin, o'r Sir hono, y symudodd y teulu i'r wlad hon. Yno hefyd y claddwyd ei dad a'i chwaer.

Daeth y fam weddw a'i thri phlentyn amddifaid i'r wlad hon yn y flwyddyn 1848; mae dau o'r tri yn awr wedi blaenori i'r wlad well; a'r un sydd ar ôl, yn nghyd a'r hen fam, ar y ffordd sydd yn arwain fel yr hyderwn. Ei afiechyd oedd y Darfodedigaeth. Dechreuodd mewn anwyd trwm a gafodd yn nechreu 1864, ac er pob ymgais a gobeithion, methwyd cael ymwared.

Hynodrwydd ei fywyd oedd ei gyfanrwydd. Dim manau meinion yn edefyn ei ymarweddiad, dim troion trwstan yn hanes ei daith, dim cam gwag yn ei yrfa. Mae yn debyg fod amgylchiadau ei ddygiad i fyny wedi rhoi mantais i gynildeb gynyddu, nes dyfod yn elfen gref yn ei natur; ond yn hyn hefyd yr oedd yn unffurf a chyson. Gwnaeth arddeliad o Grist yn 1850, pan yn 16 mlwydd oed, a daliodd hyd angau.

Os na roddai gamrau mor freision a rhai, eto wrth beidio ymdroi yma ac acw, a gofalu rhag llithro yn ôl, yr oedd yn gadael y lluaws heb wneyd fawr o dwrw nac ymddangosiad. Cuddiad ei gryfder oedd ei gysondeb. Gan nad arferai siarad llawer, yr oedd yn gallu meddwl mwy; ac wrth gadw ei deimladau i mewn, yr oeddent yn fwy nerthol ar ei natur ef ei hunan.

Da fyddai i bob dyn ddysgu hyna o athroniaeth, pe na ddysgai ddim mwy. Dyoddefodd ei gystudd maith yn dawel iawn. Ni fynai i ddim ddyrysu y ddyledswydd deuluaidd o ddechreu blwyddyn i'w diwedd. Yr oedd yn myned yn oleuach ar ei feddwl fel yr oedd yn nesâu i'r glyn; credai fod yr olwg ar Iesu, a chlywed adsain caniadau y nef, yn tynu y Cristion trwy borth angau fel heb yn wybod iddo ei hun. Tebyg iawn i hyny y bu farw.

Claddwyd ef yn barchus iawn. Y Parch. Wm. Jones yn pregethu ar yr achlysur, oddiar Dad. 14. 13.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ebrill 1866.