MR. MARGARET JONES, WESTERNVILLE, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Tachwedd 24ain, yn Rome, N. Y., yn 68 mlwydd oed, Margaret, gweddw y diweddar Humphrey E. Jones, a mam y Parch. John H. Jones.Daeth i'r wlad hon gyda ei theulu o blwyf Penrhos, Lleyn, yn agos i Bwllheli, Cymru, yn y flwyddyn 1852, a gadawyd hi i dreulio gweddill ei hoes gyda ei phlant.
Ei hafiechyd ydoedd y Cryd cymalau, yr hwn a lynodd wrthi mewn canlyniad i anwyd trwm a dderbyniodd tua 25 mlynedd yn ôl; ac er treulio llawer gyda meddygon, ni ellid ei gwaredu oddiwrtho. Nid oes ond ychydig all amgyffred y gofid a ddyoddefodd o'r amser hwnw hydddydd ei marwolaeth; ond ni chlywid hi byth yn grwgnach er hyny.
Fel yr ydoedd amser yn treiglo ymaith, yr oedd yr afiechyd yn cael mantais i ennill goruchafiaeth o radd i radd, nes y gwelwyd hi yn gorfod cario ffon. Ba raid i'r ffon roddi lle i'r baglau o'r diwedd; ac yn ddiweddaf oll bu raid taflu y baglau hefyd. ac yn ymfoddloni i eistedd yn ei chadair, a chymeryd ei symud o fan i fan gan eraill. Bu yn y sefyllfa yma y 14 mlynedd diweddaf o'i hoes.
Y ddau le mwyaf hoff ganddi ydoedd cartref, a thŷ Dduw. Anhawdd iawn oedd ei chael oddi cartref, ond yn unig i fyned yno; ac am faith flynyddoedd y cafodd ei phlant a chyfeillion caredig ereill y fraint o'i dwyn yno yn ei chadair.
Ei chynnaliaeth a'i chysur ydoedd pethau crefydd; ac er ei bod yn methu plygu y glin, ni fethodd a gweddio; ac yr ydoedd yn rhaid gwybod pan y deuai i'r gyfeillach, yn mha le yr ydoedd yn bywioliaethu.
Cafodd ei phlant yr hyfrydwch o dalu y pwyth iddi am ei gofal tyner am danynt hwy pan oeddynt yn analluog i ofalu drostynt eu hunain, trwy weini arni yn ei llesgedd maith. Byddai yn hiraethu yn fynych am gael ei gollwng; ac ar foreu y 24ain cafodd ei dymuniad.
I eangder gollyngdod - a gafodd
O'i gofid a'i thrallod;
Awr afiach bellach yn bod,
I'w phabell ni chaiff wybod.