MR. ROBERT JONES. ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Ebrill 26ain, 1866, Mr. Robert Jones, tad y wraig uchod, sef Mrs. Ann Owens (1812-1866), yn 81 mlwydd oed.

Ganwyd ef yn y Penrhyn, plwyf Llaniestyn, Lleyn, Sir Gaernarfon; a phan yn 15 mlwydd oed yn y flwyddyn 1800, symudodd ei rieni i'r Ffridd, plwyf Meyllteyrn, ac yno y bu ef hyd y flwyddyn 1852, pryd y daeth gyda'i blant i'r wlad hon, ac y sefydlodd gyda'i ferch hynaf, sef Ann; ond ar ryw amserau byddai yn myned at y merched ereill.

Ymbriododd â Jane, merch Mr. David Williams, Hendre, plwyf Aberdaron. Lleyn, a bu iddynt ddeg o blant', ac mae dau fab a dwy ferch o honynt yn y wlad yma, a dau fab yn ngwlad eu genedigaeth, ac un bachgen arall wedi colli er ys 14 o flynyddoedd.

Yn y flwyddyn 1852, cyflogodd yn Liverpool i fyned ar long i Calcutta, i weithio ei gelfyddyd, sef Saerniaeth, a daeth i Lanon yn yr un flwyddyn, sef yn mis Awst, ac aeth yn ôl i Calcutta gyda yr un llong, ond ni chaed gair o'i hanes byth mwy; a bu dau farw yn Nghymru, ac un yma.

Yr oedd yr hen ŵr yn proffesu crefydd er ys 54 o flynyddoedd, sef y flwyddyn y ganwyd ei ferch hynaf, a chafodd ei gynnal yn ddi-gwymp hyd y diwedd. Yr wyf fi sydd yn ysgrifenu y llineliau hyn yn cofio yn dda pan y byddem yn myned i hen ysgoldŷ Bryn Mawr, i weled yr hen dadau, lle cefais yr Ysgol Sabbothol gyntaf erioed. Os wyf yn cofio yn dda, - fy meddwi i yw, rhai yr hen dad uchod a fu yr athraw cyntaf i mi heblaw fy rhieni.

Claddwyd yr hyn oedd farwol o hono yn yr un gladdfa a'i ferch, y Parch. T. Williams, Rome, yn pregethu ar yr achlysur.
EI FAB, R. R. OWENS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Gorphenaf 1866.