MR. ROBERT JONES. CLEVELAND, OHIO.
Rhagfyr 9fed, 1866, yn Cleveland, Ohio, o'r darfodedigaeth, Robert Jones, yn y 38 mlwydd o'i oedran. Yr oedd yn fab i William a Mary Jones, Ty'nyllan, Llanegryn, sir Feirionydd, ac yn frawd i Mr Thomas W. Jones, Utica.Daeth i'r wlad hon o Liverpool oddeutu 16 mlwydd yn ôl, ac ar ôl bod yn New York am rai blynyddau, symudodd i Cleveland, lle y bu yn aros hyd ei farwolaeth.
Yr oedd yn aelod o eglwys Annibynol Dr. Wolcott, a chafodd y fraint o roddi tystiolaeth eglur cyn marw fod y Ceidwad yn anwyl ganddo, a sicrwydd gobaith y gwir Gristion yn ei fynwes.
Gadawodd dri o blant bychain amddifaid ar ei ôl, i diriondeb yr Hwn sydd wedi i cyfenwi ei hun yn Farnwr y gweddwon ac yn Dad yr amddifaid.