MR. WILLIAM R. JONES, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Yr oedd William. R. Jones yn un o'r ychydig oedd yn aros o'r Cymry a fudasant i America yn y fiwyddyn 1800. Daeth drosodd yn mis Gorphenaf yn y flwydd hono, o Penllech, Lleyn, yn ddyn ieuanc heb gyrhaedd ei 20 mlwydd oed.Bu farw Rhag. 25ain, 1866, yn 86 mlwydd oed, o fewn ychydig oriau i awr ei enedigaeth. Yr oedd yn wr tawel, heddychol, a chymydogol, ac yn aelod eglwysig yn y Capel Ucha' ae wedi hyny yn Penymynydd, er's llawer o flynyddoedd - ei ddiwedd oedd tangnefedd. Gweinyddwyd yn ei gladdedigaeth gan y Parch. Sem Phillips.