MR. MARGARET MORGAN. EBENSBURG, CAMBRIA COUNTY, PENNSYLVANIA.
Ganwyd gwrthddrych y byr-gofiant hwn yn Mhen-y-banc, Clipiau, Plwyd Mallwyd, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru Awst, 1810.Enwau ei rhieni oeddynt Lewis ac Elizabeth Humphreys. Derbyniwyd hi yn aelod o Eglwys yr Annibynwyr Dinas Mawddwy, gan y Parch. John Williams, tra nad oedd ond ieuanc iawn. Bucheddodd yn ddiargyhoedd tra fuasai yn Nghymru yn gystal ag wedi hyny.
Ymfudasai i America yn 1831, ac ymsefydlodd yn Ebensburgh. Yma ymunodd, yn ddioed, â'r Annibynwyr trwy lythyr o gyflwyniad a gawsai gan Eglwys Dinas - ei Mham grefyddol. Prisiai y llythyr hwn yn uchel; a chadwodd ef yn ofalus am lawer o flynyddoedd. Yn Rhagfyr 16eg, 1834 ymbriododd ag Evan Morgan, i'r hwn y bu yn "ymgeledd gymwys" hyd nes i angau ei hanalluogi i gyflawni ei dyledswyddau teuluaidd. Hynodid ei bywyd gan ei gofal a'i thiriondeb at ei phriod.
Yr oedd hefyd yn hysbys i bawb trwy ei charedigrwydd a'i hymgeledd i weision yr Arglwydd o bob cyfenwad crefyddol. Hoffai eu cyfeillach mor fawr, a pharchai eu hurddas mor uchel fel yr ystyriai ei bod yn fraint iddi i gael gweini i'w hangenrheidiau bob amser y cawsai gyfleustra. Mae lluaws o weinidogion, yr Annibynwyr yn enwedig, yn dystion byw o'i charedigrwyäd iddynt. Hwy yn enwedig am fod ei chysylltiadau crefyddol yn eu dwyn hwynt yn fwy mynych o dan ei chronglwyd. Ond pa adeg bynag yr ymwelid a'i thŷ gan weinidogion o Gyfundebau eraili cawsent hwythau y chwaer anwyl Mrs. Morgan yr un mor garedig a thirion. Mae ysgrifenydd y llinellau hyn yn brofiadol o hynyna.
Ac, mor belled ag y caniatai ei hiechyd, mynychai foddion gras gyda y cysondeb a'r manylwch mwyaf. Gwanaidd ac afiach fu trwy ei holl oes yn America, yr hyn a'i hanalluogai yn aml i fwynhau breintiau moddion cyhoeddus y cysegr. Parai hyny ofid mawr iddi; eto yr oedd bob amser, yn ystwyth i ewyllys yr Arglwydd.
Awst 21ain, 1866, ddydd Mawrth. daeth angau yn ei nerth ati i dynu ei thabemacl ar ffrwst yn ddryllian i'r llawr. Y dydd hwn cymerwyd hi yn glaf o'r Gwaedglwyf (Dysentery), ac am bedwar o'r gloch, boreu ddydd Sadwrn canlynol, y 25ain, gorphenodd ei gyrfa, yn ddiboen, mewn tangnefedd, mewn hûn yn ei Hanwylyd. Meddai lwyr reolaeth ar ei synwyrau hyd ei hanadliad olaf. Ni thalai nemawr sylw yn ystod y "byr gystudd hwn" i neb ond ei phriod, a'i nhith, a'i brawd, wrth ei phriod dywedai: "Byddwch yn dawel i ewyllys yr Arglwydd gael ei wneuthur: mae hono, bob amser, yn gweithio o dde." Wrth ei nhith, Miss Jane Charles : " Mae dydd trallod wedi dod, fy ngeneth i, mae y glyn yn arw; ond byddaf trwyddo, gartref yn union deg; nis gelli di wneyd dim yn ychwaneg, fy mhlentyn. Cofia fod yn barod i farw. Mae byw i Grist yn elw wrth farw." Wrth ei brawd : "Bydd fyw yn dduwiol; thâl dim yn angau ond crefydd." Ar hyn dyna hi yn Mharadwys! - "Gwyn y byd y meirw sydd yn marw yn yr Arglwydd."