MR. JOHN OWENS. DODGEVILLE, WISCONSIN.
Ganwyd yr ymadawedig yn Brynllan, Llanrug, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.Mab ydoedd i John Owens a'i briod, o'r lle uchod. Treuliodd y rhan foreuol o'i oes yn Llanrug. Cafodd y fraint o ymuno â chrefydd pan yn bur ieuanc, ac meddir yr ystyrid ef yn un o grefyddwyr ieuainc goreu yr ardal, a pharhaodd yn grefyddwr difwlch hyd ei fedd.
Yn y flwyddyn 1815, ymunodd mewn priodas â Miss Ann Thomas, - buont yn byw o ddwy i dair blynedd yn Ffestiniog, Gogledd Cymru; symudasant oddiyno i Gaernarfon, lle y bu ef yn dilyn ei alwedigaeth fel gwneuthurwr Wageni, am flynyddau, ac oddiyno y daeth ef a'i deulu i'r wlad hon; ac yn eu hymdaith arosasant dros yspaid o amser yn Nhalaeth Efrog Newydd, oddeutu Utica a New York Mills. Oddiyno symudasant tua'r Gorllewin, a sefydlasant yn Hasle Green, Wisconsin, ac oblegid anfanteision moddion crefyddol Cymreig, symudasant oddiyno yn Hydref 1857, i Dodgeyille, lle y tiigodd yn sefydlog hyd ddydd ei farwolaeth.
Yn mhen ychydig fisoedd ar ôl iddo ddyfod i'r lle hwn, bu farw ei wraig ar enedigaeth maban, gan ei adael ef a thylwyth o blant yn ddigon helbulus. Ymbriododd eilwaith yn Mai 1859, â Miss Rebecca W. Roberts o Franklin, Wisconsin, yr hon fu yn ymgeledd gymwys iddo hyd ddydd ei farwolaeth, ac yn fam dyner i'r plant. Yr oedd yr ymadawedig yn grefyddwr siriol a defnyddiol yn Eglwys Dduw, a theimlwn fel Eglwys fechan yma ein colled yn fawr ar ei ôl, yn wyneb yr amgylchiadau presenol.
Ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth darfu i'r Eglwys yma ei ethol yn ddiacon, a gobeithiem y pryd hyny iddo gael byw yn hir a bod yn ddefnyddio] yn ei swydd, ond priodol i ni gofio bob amser, "yn nghanol ein bywyd yr ydym yn angau," ac nad oes ond "megys cam rhyngom ag angau;" felly y bu am ein brawd, ymadawodd gyda sydynrwydd oddiwrth ei lafur ar y ddaear at ei wobr yn y nef. Deallwn iddo fod yn ddiacon am flynyddau yn Eglwys Caernarfon, Cymru.
Yr oedd amrywiol gymwysderau ynddo at hyny, yr oedd ef yn fwyn a dylanwadol gyda'r brodyr a'r chwiorydd yn y cyfeillachau - ymddiddanai yn felus am gariad Crist a'r addewidion gwerthfawr i bechadur trwyddo, - pa bethau yn ddiameu y mae mewn meddiant o honynt ac yn eu mwynhau ar fryniau gwynfyd draw. Gofynodd ei briod iddo ychydig fÿnudau cyn ei ymadawiad, "A ydyw Crist yn werthfawr genych yn awr?" Dywedodd yntau ddwy waith trosodd, "0 ydyw yn werthfawr iawn hefyd," ac yna ceisiai adrodd penill o hymn, ond nis gellid ei ddeall. Felly terfynodd ei daith filwriaethus yma, wedi bod yn filwr da i Iesu Grist, a'i obaith yn ddiysgog ar Gyfrwngwr, ar y 14eg o Awst, 1866, yn 48 mlwydd oed, gan adael gwraig a thri o blant i alaru eu colled ar ôl priod a thad tyner.
Ei afiechyd oedd Enyniad y colyddion. Claddwyd ef yn mynwent Dodgeville, gweinyddwyd gan y Parch. Evan Owen, a phregethodd bregeth gyfeiriedig at yr amgylchiad y Sabboth dilynol.
W. WILLIAMS.