MR. JOHN OWEN. CALEDONIA, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.
CANMLWYDDIANT CALEDONIA.
Cyfarfod Dathliadol Dyddorol. Portage, Wisconsin. Ar y 29ain o Fedi, 1896, cawsom gyfarfod i adgoffa dyfodiad cyntaf y Cymry i fyw i ardal Caledonia. Y teulu cyntaf ddaeth yma ydoedd John a Margaret Owen, yn nghyd ag wyth o blant, o le o'r enw Maes-y-garnedd, plwyf Llanelltyd, ger Dolgellau, Gogledd Cymru. Nid oes ond tri o'r holl deulu yn aros erbyn hyn, sef Mrs. T. J. Rice, a John Owen yn yr ardal hon, a Richard Owen yn Spain, South Dakota. Gan nad oedd cyhoeddusrwydd wedi ei roddi i'r cyfarfod, nid oedd ond pobl yr ardal eu hunain wedi dyfod yn nghyd, heblaw rhyw ychydig o Saeson o'r gymydogaeth, a'ch gohebydd E. R. Williams o Cambria. Yr oeddys wedi trefnu i gael dau gyfarfod, un am 10 a 2, ond o herwydd rhyw amgylchiadau nad ellid eu rhagweled, ni chafwyd yn nghyfarfod y bore ond darlleniad papyr ar gychwyniad yr achos Methodistaidd yn yr ardal, fel y bu raid talfyru llawer ar gyfarfod y prydnawn. Dewiswyd Mr. Williams o Cambria yn gadeirydd, a chawsom areithiau ganddo ef a'r Parch. T. J. Rice, yn nghyd a J. J. Jones, gŵr ieuanc o Gymro wedi ei fagu yn yr ardal hon, ond yn pregethu yn awr gyda'r Methodistiaid Rhyddion; hefyd hanesion byrion gan eraill am helyntion dechreu byw mewn gwlad newydd. Darllenodd Miss Sarah Roberts bapyr ar gychwyniad yr Ysgol Sabbothol, a Mrs. George W. Hughes un ar gychwyniad y Gymdeithas Ymdrechol yn yr ardal - y ddau bapyr yn Saesneg. Cawsom adroddiad da iawn gan Miss Susie Edwards, fel rhwng pawb yr oedd yn gyfarfod pur ddifyr. Yr oedd yma arddangosiad o amryw hen greiriau (relics), megys hen gist dderw wedi dyfod o Gymru, 50 mlynedd yn ôl; wedi gwasanaethu yn lle bwrdd i'r teulu yn hir ar ôl dyfod yma, ac yr oedd yn ateb yr un dyben yn y cyfarfod i fwyta byrbryd. Gwelais ganwyllbren pres a fflat smwthio hen ffasiwn, cist de mahogany - oll o Gymru, a.y. Yr oedd yno amryw hen lyfrau, megys llyfrau cerddorol ysgrifenedig, ac amryw lyfrau eraill. Mae yn debyg y buasai yn or-chest i'r un genedl arall i ddangos cymaint o hen Feiblau, a chymeryd i mewn y rhif, yn un man. Yr oedd tri neu bedwar o Feiblau Peter Williams, heblaw Beibl Eglwys Loegr, ac amryw Feiblau eraill, oll wedi dyfod o Gymru ers o 45 i 50 mlynedd, a rhai yn dwyn amseriad yn mhell cyn hyny. Yr oedd yno am- ryw bethau eraill yn cynrychioli gwisgoedd, yn nghyd ag engreifftiau o ddull y bara, cakes a chrempogau y dyddiau hyny.Y Drych ~ Hydref 8fed 1896.
MR. JOHN OWEN. CALEDONIA, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.
Bu farw Mehefin 11eg 1866 yn 62 mlwydd oed.Bu farw ei weddw, Margaret Owen yn Ionawr 1871 yn 71 mlwydd oed