MR. JOHN RICHARDS (TALARDD), HOLLAND PATENT, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mawrth 14eg 1842, Yn ei dŷ ei hun, plwyf Marcy, swydd Oneida, o fewn ychydig yn 66 miwydd oed, Mr. John Richards, (Talardd.)

Yr oedd yr ymadawedig yn enedigol o Lan-y-Mawddwy, swydd Feirionydd, Cymru. Ymfudodd gyda'i deulu i'r wlad hon naw mlynedd, ac ychydig fisoedd, yn ôl, a sefydlodd yn y lle uchod. Yr oedd mewn undeb parhaus âg eglwys Crist gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, er pan oedd yn 25 mlwydd oed. Y lle yr ymunodd gyntaf â'r dysgyblion ydoedd yn Abercowarch, ac wedi hyny yn Llanuwchllyn, lle y bu yn byw yn nghylch ugain mlynedd; ac oddiar ei ddyfodiad i America, bu yn aelod gyda'r un enwad yn Utica. Wrth ymddyddan âg ef mewn cyfeillach eglwysig ychydig cyn ei glefyd olaf, dangosai fod ymlyniad cryf ynddo wrth yr Achos mawr, a thystiai mai yr enwad uchod ydoedd ei bobl ddewisedig fel cyfeillion, gyda pha rai y carai dreulio ei oes.

Cafodd ei gymeryd yn glaf tua dau fis cyn ei farw, ond yr oedd ei gystndd môr esmwyth yn ei ymosodiad, ac môr raddol yn ei gynnyddiad, fel na feddyliwyd ei fod yn debyg o ddybenu mewn angen, hyd yr lleg, pryd y dechreuodd y cryd ei gymeryd, yr hwn yn fuan a ddrylliodd ei ddaearol dŷ, ac yntau yr amser crybwylledig a gymerodd ei aden, fel yr ydym yn hyderu, i feddiannu tŷ, nid o waith llaw, tragywyddol yn y nefoedd. Aml y dywedai yn ei gystudd, pan y cymhellid cyfferi meddygawl arno, fod ganddo 'well Ffrynd na'r physig.' A dangosai fod ei feddwl yn ddarostyngedig i drefn ac ewyllys ei Arglwydd, trwy ateb bob amser yr ymddyddanid âg ef am ei gystudd. 'Os gwel Duw yn dda mi wellha - nid yw o bwys genyf fi pa pa un ai marw yn awr, ai rhyw dro eto. Gwneler ei ewyllys ef.'

Yn ei amser olaf, dywedai, 'Er na fedrai ei deulu weini dim cysur iddo y pryd hwnw, fod ganddo Grist i'w gysuro.'

Gadawodd wraig a phump o blant i alaru eu colled ar ei ôl - y naill am wr ffyddlon, a'r lleill am dad tyner. Yr oedd ef a'i wraig wedi cadw tŷ am 37 mlynedd, ac, yn hynod iawn, efe ei hun oedd y cyntaf o'r teulu a brofodd farwolaeth. Ar yr 16eg, ymgynnullai llu mawr o gyfeillion y trangcedig i weini y gymmwynas drist olaf i'w weddillion daearol, ac wedi pregethu gan y Brawd Wm. Rowlands, gosodwyd ei ran farwol mewn corphlan feillionawg fechan, o fewn hanner milltir i'w annedd flaenorawl, ac yno y gorphwys mewn gobaith byd yr adgyfodiad.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ebrill 1842.