MRS. ELIZABETH ROBERTS, BOONVILLE, ONEIDA, EFROG NEWYDD.

Mai y 7fed, yn mhlwyf Boonville, yn 66 ml. oed, Elizabeth Robebts, gwraig Robert Roberts, gynt o'r Felin, Llangwnadl, Lleyn, Sîr Gaernarfon, Gogledd Cymru, ac unig ferch Daniel a Sarah Evans.

Ganwyd hi yn mhlwyf Llangeitho, gerllaw y pentref. Ymfudodd, gyda'i rhieni, i swydd Gaeniarfon pan yn ddeng mlwydd oed.

Cafodd ei dygiad i fyny yn Eglwys Dduw gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, er yn blentyn. Ymfudodd hi, gyda'i gwr a'i phlant, i'r wlad hon yn y flwyddyn 1831; ond wedi ei dyfodiad yma, ni chafodd nemawr o gyfleusdra i ymuno ag un eglwys tra fu byw.

Dioddefodd hir gystndd — mwy na blwyddyn, yn amyneddgar. Bu dros bedwar mis heb allu codi.

Yr oedd yn awyddus a hiraethus am foddion gras; ac yn cyrchu iddynt pan y byddent yn gyrhaeddadwy.

Bu amryw o'i brodyr yn ymweled â hi yn ei chystudd; ac yr oedd arwyddion dymunol arni ei bod yn caru Iesu Grist, ac yn ymddiried ynddo.

Claddwyd hi yn mynwent Pen-y-Caerau, y 9fed o Fai. Ar yr achlysur pregethodd y Parch. W. T. Williams, a gadawyd i yn nhy ei hir gartref hyd foreu cariad yr udgorn diweddaf.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Gorphenaf 1842