MRS. ANN OWENS. FLOYD, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Ebrill 18fed, 1866, yn Floyd, yn 54 mlwydd oed, Mrs. Anne Owens, gwraig Mr. Robert R. Owens o'r lle uchod.

Yr oedd yn enedigol o Sarn Mylldyr, Sir Gaernarfon, a bu yn proffesu crefydd gyda y T.C. am 34 mlynedd.

Mae yn debyg y ceir ychwaneg o'i hanes.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mai 1866.


MRS. ANN OWENS. FLOYD, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Ebrill 18fed, 1866, yn Floyd, Caerefrog Newydd, Mrs. Ann Owens, gwraig Mr. Robert R. Owens, yn 54 mlwydd oed.

Merch ydoedd i Robert a Jane Jones, Ffridd, plwyf Mellteyrn, Lleyn, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Yr oedd Mrs. Owens yn hynod yn mhlith y saint. Cafodd ei dwyn i fyny yn yr Eglwys gyda'i thad a'i mam; ond ymddengys iddi adael y Tŷ am yspaid byr. Ymunodd eilwaith pan yn 20 mlwydd oed, ac ymddengys fod ei hargyhoeddiad y pryd hwnw yn ddwys a llym, nes y bu farw iddi ei hun, a chariodd yr amgylchiad yma ei effaith ar ei holl fywyd. Bu y Gŵr a waredodd ei henaid rhag angau y pryd hwnw yn darian a gwobr mawr iddi dros ei holl ddyddiau.

Collodd ei mam pan nad oedd ond ieuanc iawn, a daeth gofal yr holl deulu arni, sef ei thad ac wyth o blant, ac ymdeimlai ei rhwymau i'w magu erbyn byd arall : yn hyn bendithiodd Duw ei llafur yn fawr. Bu yn y sefyllfa hono hyd y flwyddyn 1843, pryd yr ymunodd mewn priodas gyda Mr. Robert R. Owens (ŵyr i'r hen Batriarch Robert Jones, Rhôslan.)

Treuliasant y naw mlynedd cyntaf o'u bywyd priodasol yn ei hen gartref. Bu iddynt bump o blant, o ba rai nid oes ond un yn fyw, sef mab, tua 21 mlwydd oed.

Yn y flwyddyn 1852 ymfudasant i'r wlad hon, gan ddysgwyl hawddfyd i raddau, fel pawb ereill; ond yn lle hyny, chwerwder chwerw. Pan ar eu taith yn agos i Rome, tra yn cyfeirio am Turin, Swydd Lewis, cymerwyd y baban 2 flwydd oed yn sâl iawn, ac yn nghanol estroniaid; a thra ar y ffordd yn y wagen, bu farw y bachgen ar liniau ei fam; ac er ei bod yn meddwl cymaint o'i baban ag un fam, eto daliodd yr ergyd er ei bod yn sydyn, fel nas gwybu y dyn oedd yn gyru y cerbyd fod dim wedi dygwydd, a dygodd ef yn dawel am 30 o filldiroedd i'w gladdu gyda'i chyfeillion yn Tug Hill. Yr oedd, yn ôl ei geiriau ei hun, yn teimlo ei bod yn cael nerth gan yr Arglwydd, nes dyweyd, "Yr Arglwydd a roddodd, a'r Arglwydd a gymerodd ymaith;" ac yn y syniad yma gallodd dewi ac ymgynnal.

Treuliasant un flwyddyn yn Swydd Lewis, yna sefydlasant yn ardal Floyd. Erbyn hyn nid oedd iddynt ond dau o blant, sef mab a merch. Am yspaid edrychai pob peth yn addawol, a'r haul yn tywynu ar eu pabell; ond cymylodd, tua phum' mlynedd yn ol gwelwyd Jane eu merch yn dechreu gwaelu, a gwelai ei mam ei bod yn ngafael y Darfodedigaeth, ac yr oedd meddwl ei cholli yn gwaedu ei chalon. Yr oedd Jane mewn gwirionedd yn un o flodeu prydferthaf daear. Gallaf oddiar gydnabyddiaeth ddyweyd ei bod yn eneth wir serchus. Yr oedd ei natur yn gwanhau dan bob dyrnod.

Tua dechreu y Gauaf diweddaf yr oedd hithau i'w gweled yn tynu tua'r rhosydd, ac yn gwaelu bob dydd; ond yn yr adeg yma yr oedd yn hynod o dawel, ac er y dysgwyliai ereill ryw beth neillduol mewn profiad crefyddol, wedi myned fel hyn i gaethiwed afiechyd, ond nid oeddent yn cael dim. Nid oedd y dysgwyliad yma yn codi yn gymaint oddiar ei bod yn arfer bod yn rhyw uchel ei phrofiad, na, nid felly yr oedd, ond yn hytrach fel arall, ond bob amser yn cyrchu at y nôd - pechadur mawr, a Cheidwad galluog - beiau mawr, a Iawn mawr. Ond tua dau ddiwrnod cyn iddi ein gadael, gwelodd yr Arglwydd yn dda roddi dadguddiad helaeth iawn o'r berthynas oedd rhwng ei henaid â'i Fab ef, Iesu Grist.

Yn yr adeg yma, yn nghanol y nos, daeth ati ei hun fel yn dadebru o gwsg, a dywedai wrth y rhai oedd yn bresenol - "Wel," meddai, "mae yn debyg nad oes yr un o honoch yn meddwl am danaf fel yr wyf fi yn meddwl am danaf fy hun, yr wyf fi yn son am wella, a chwithau yn fy ngweled yn marw bob dydd, a heddyw yr wyf yn gweled fy mod am eich gadael i fyd arall, ond nid oes arnaf ddim ofn, y mae y man y cefais fy mywyd ynddo pan yn cychwyn fy ngyrfa grefyddol yn fy nghynnal heddyw, sef y Cyfammod Tragywyddol;" yna dechreuai ei henaid wledda ar y Cyfammod, fel yr unig fan i bechadur orphwys arno. Ar hyn daeth ei phriod i'r ystafell. a'r gair cyntaf a glywai oedd, fod yr hen Gyfammod yn sound. "Dal afael ynddo ynte," meddai wrthi." "Ah," atebai hithau, nid oes dim gwaith. mae ef yn dal ei afael ynof fi heddyw, fel llawer gwaith o'r blaen," atebai hithau, yna ymollyngai mewn gorfoledd yn yr olwg ar drefn fawr yr iachawdwriaeth.

Galwai y teulu oll, a rhai o'r cymydogion, a siaradai â hwynt oll bob yn un, gan en hanog yn y modd mwyaf difrifol i ymofyn am grefydd cyn myned i wely marw, a dywedai - "Beth a wnaethwn i pe heb grefydd hyd wely cystudd? ni chefais amser i feddwl, yr oedd yn ddigon o waith i mi gyda y salwch." Yn awr y mae Eglwys Floyd yn medi ffrwyth ei chynghorion, y mae amryw wedi troi i dŷ Dduw yn y canlyniad.

Yn ei dyddiau diweddaf trefnodd ei holl amgylchiadau gyda'r fath dawelwch a phwyll, heb un cyffro, fel pe na buasai ond yn myned i dŷ cymydog, fel yr oedd pob peth hyd yn nod y claddedigaeth, yn ôl ei threfniad ei hunan; ac mewn gwirionedd, yr oedd ei dyddiau diweddaf yn brawf o'r nefoedd ar y ddaiar.

Ar yr 20fed, yn nghapel y T. C. yn Floyd, yn unol â dymuniad y drengedig, pregethai y Brodyr R. F. Jones a Dr. Rowlands i dyrfa luosog.

Hebryngwyd ei chorff i orphwys i'r gladdfa ar y ffordd yr eir i Rome.
R. F. JONES.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Gorphenaf 1866.