MRS. MARGARET OWENS. PORTAGE PRAIRIE, WISCONSIN.
Medi 4ydd, 1866, o'r Disentary, yn ardal Portage Prairie, Wisconsin, yn 42 mlwydd oed, Mrs. Margaret Owens, priod Mr. William Owens.Merch ydoedd i Hugh a Mary Hughes. Dygwyd hi i fyny yn ardal Carneddi, Gogledd Cymru, o'r lle yr ymfudodd hi, dwy chwaer iddi, a'u tad, i'r wlad hon 19 mlynedd yn ôl.
Y flwyddyn ganlynol ymbriododd hi â'r hwn sydd heddyw yn nyffryn galar. Bu iddynt wyth o blant, tri o ba rai a'i rhagflaenasant hi i'r byd mawr. Yr oedd ei gofal yn fawr am addysgu ei phlant yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Tystiai ei phriod galarus y byddai hi yn treulio llawer o amser i ymdrechu gyda Duw mewn dirgel fanau, ac na roddai hûn i'w llygaid heb ddarllen cyfran o air Duw iddi ei hun, a diau mai yn y ddau beth hyn y mae cuddiad cryfder y Cristion.
Disgynodd i'r glyn gyda thawelwch mawr. Yr oedd ei meddwl yn dawel i gyfarfod âg angau. Cyrchodd llu anarferol o'r cymydogaethau i'r claddedigaeth. Cymerodd y Parchn. John R. Daniels a Rees Evans ran yn ngwasanaeth y claddedigaeth, a phregethodd yr ysgrifenydd, oddiar Esa. 38. 1.
T. H. R.