MR. DANIEL PARRY. NEW HARTFORD, UTICA, NEW YORK.
Tachwedd 5ed, 1866, yn New Hartford, ger Utica, New York, Mr. Daniel Parry, yn 67 mlwydd oed.Ei afiechyd oedd y dyfrglwyf, yn nghyd ag afiechyd y galon.
Claddwyd ef yn y fynwent newydd ger Utica. Cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol ar yr achlysur gan y Parchn. Mr. Hartsough yn Saesonaeg, a Thomas T. Evans yn Gymraeg.
Cafodd ei eni a'i fagu, a byw tra yn Nghymru mewn lle o'r enw Tŷ Bach, Llandwrog, Sir Gaernarfon. Ymbriododd tra yno â Miss Anne Jones, o Cae-braich-y-cafn.
Daethant i America 18 mlynedd yn ôl, gyda saith o blant, dau o ba rai sydd wedi marw er's blynyddoedd, a phump eto yn fyw, ac yn cydalaru â'u mam weddw.
Ai dyna y cwbl am dano ? Na, na, gwnawn gam â'r byw ei adael ar hyn. 'Un gŵr yn mhlith mil' oedd Daniel Parry. Yr oedd yn grefyddwr selog trwy ei oes, er mai pum' mlynedd cyn ei farw y daeth yn aelod o'r eglwys; crefyddwr heb fod yn y seiat. Pa gysondeb sydd mewn peth felly? Wel, caiff y darllenwyr farnu. Penaf o bechaduriaid yn ei olwg ei hun, a'r pechadur lleiaf yn ngolwg ei gymydogion. Amcanai gadw'r ddeddf yn berffaith, er nad oedd un arwydd ei fod yn ceisio dim ganddi ond ei gospi.
Llafuriai gyda holl ranau allanol crefydd fel un yn dymuno ei llwyddiant. Bu yn un o ddeiliaid ffyddlonaf yr Ysgol Sabbothol trwy ei oes. Bu yn athraw defnyddiol iawn ynddi am flynyddoedd yn Bwlan, Sir Gaernarfon. Aeth i un cyfarfod eglwysig cyn dyfod o Gymru, a mawr oedd y llawenydd ei weled, a rhoddwyd llythyr eglwysig iddo i ddyfod i America : ond ofnodd wedyn nad oedd yn dduwiol, a digalofnodd ei ddangos.
Daeth i gyfarfod eglwysig wed'yn er ys wyth mlynedd yn ôl, pan oedd yr ysgrifenydd yn bresenol, pryd yr amlygai lawer o arwyddion pechadur wedi ei argyhoeddi; ond digalonodd wed'yn am dair blynedd. Ond ar ôl gwrando pregeth ar Hos. 13. 13 - "Mab anghall yw efe, canys ni ddylasai efe aros yn hir yn esgoreddfa'r plant," penderfynodd yntau nad arosai yn hwy, a daeth i'r eglwys at y T. C. ar Frankfort Hill, ger Utica, a chrefyddwr o'r fath oreu a fu dros weddill ei oes.
Cymerodd ran gyhoeddus yn y cyfarfodydd gweddio yn ddioed, heb oddef ei gymhell, er cywilydd i lawer o hen grefyddwyr ag oedd wedi dechreu yn foreu, a gweddiai i bwrpas, "nid fel un yn curo awyr." Bu yn cynorthwyo y Dr. Rowlands yn ei lesgedd, trwy ddechreu yr oedfa o'i flaen. Bu yn areithio yn effeithiol iawn ar yr Ysgol Sabbothol, a Dirwest.
Pan oedd unwaith yn areithio ar yr Ysgol Sabbothol, canmolai ei llyfr (sef y Beibl), fel yr unig arweinydd diogel i'r bywyd. "Y mae," meddai, "gan y morwyr eu cwmpas i hwylio eu llongau wrtho dros y cefnfor, ond y mae llawer llong wedi colli cyn cyrhaedd y porthladd; ond ni chollodd neb erioed gyda hen gwmpas y Beibl nes dyfod yn ddiogel i'r porthladd dymunol."
Gofidiai yn fawr iddo fod cyhyd yn cloffi rhwng dau feddwl cyn dyfod at grefydd; a chynghorai y bobl ieuainc, yn enwedig ei blant, i geisio crefydd yn y boreu. Cafodd i raddau helaeth cyn ei ddiwedd yr hyn y bu yn hir ddysgwyl am dano cyn dechreu crefydda, sef prawf o gymod â Duw. Adroddai yr hen bennill canlynol yn hynod o effeithiol ychydig cyn marw :
"O Dduw rho i'm dy hedd,
A golwg ar dy wedd,
A maddeu nawr fy meiau mawr,
Cyn 'r elwyf lawr i'r bedd;
Ond i'm gael hyn nid ofnai'r glyn,
Na cholyn angau'n hwy,
Dof yn dy law i'r ochr draw,
Heb friw na braw ryw ddydd a ddaw,
Uwchlaw pob loes a chlwy' "
"Cenwch dôn iawn arno," meddaî, wrth y rhai oedd yn ei wylio; ond nis gallai teimladau neb ddal i'w ganu y pryd hwnw, ond canwyd ef yn effeithiol yn ei gladdedigaeth, ar ôl iddo gyrhaedd y porthladd yn ngwlad yr hedd. Cwyna yr eglwys ei cholled yn fawr ar ei ôl, er nad oedd ond aelod pum' mlwydd oed.
THOMAS JENKINS.
Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ionawr 1867.
MR. DANIEL PERRY. NEW HARTFORD, UTICA, NEW YORK.
I Daniel Perry of the Town of New Hartford in the County of Oneida and State of New York, being of sound mind memory do make publish and declare my last Will and testament in manner following that is to say.First. I give and devise to my wife Ellen Perry the use of all my Real Estate as long as she lives.
Second. I give and bequeath to my said wife the use of all my personal property goods and chattels of what nature or kind soever as long as she lives.
Third. After the decease of my said wife I hereby give and devise and bequeath to my son Owen D Perry the sum of five hundred dollars and to my son Robert D Perry the sum of five hundred dollars.
Fourthly. After the decease of my said wife and after the sum of five hundred dollars have been paid to my son Owen D Parry and the sum of five hundred dollars have been paid to my son Robert D Parry, I devise and bequeath that the balance of my personal property and the balance of my real estate shall be divided equally to all my children, share and share alike, that is to say, one fifth to my son John D Perry, one fifth to my son Henry D Perry, one fifth to my daughter Elizabeth E Luce, one fifth to my son Owen D Perry and one fifth to my son Robert D Perry or their heirs od assigns forever.
Fifth. I hereby appoint my said wife and my son Owen D Perry my Executrix and Executor of my last Will and testament.
On witness whereof I have hereunto set my hand and seal this fifteenth day of October in the year of our Lord one thousand eight hundred and sixty six.
The above instrument was at the date thereof signed sedaled published and declared by Daniel Perry as and for his last will and testament in presence of us who at his request and in his presence and in the presence of each other have subscribed our names as witnesses thereto.
Alonzo R Widrick of Frankfort
William Jones of New Hartford