MRS. MARGARET PARRY. PORTAGE CITY, WISCONSIN.
Mehefin 28ain, 1866, yn 30 mlwydd a 6 mis oed, Margaret, priod y Brawd William T. Parry, Portage City, Wisconsin.Merch ydoedd i Mr. Richard ac Ann Wiìliams, gynt o'r Nant, Llanfairfechan, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.
Symudasant i'r wlad hon, a sefydlasant yu ardal Blaen-y-cae, yn y flwyddyn 1851, lle maent yn byw eto.
Mehefin 29ain, hebryngwyd gweddillion y drengedig gan luaws mawr o gyfeillion a pherthynasau i dŷ ei hir gartref yn mynwent capel Engedi.
Gweinyddwyd yn y tŷ gan y Brawd Thomas H. Roberts; yn y capel ac wrth y bedd gan y Brodyr R. Evans, D. Pugh a J. J. Evans. a phregethwyd yn y capel gan y Brawd J. R. Daniel, ac ar Sabboth, yr wythnos ddilynol, gan y Brawd Thomas Phillips, yn Portage.
Prif hynodion y chwaer hon oeddynt hynawsedd tymher, ffyddlondeb, caredigrwydd, didwylledd, tawelwch a sirioldeb. Bydd i'r rhai a'i hadwaenent ei chofio yn hir fel esiampl mewn bywyd ymarferol o'r rhagoriaethau gwerthfawr hyn. Bu yn glaf amryw fisoedd. Nos y 4ydd o Mai yr oedd yn wael iawn, ofnai nas gallai fyw hyd y boreu. Rhoddodd brawf y noson hono ei bod yn meddu ar y 'gobaith da trwy ras.' Adroddai yr adnod hono gyda melusder neillduol, "Iesu Grist ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd" - "Iesu yr un heno ar lan yr Iorddonen ag ydoedd yn amser iechyd, pan ymddangosai yr amgylchiad yma fel pe yn mhell iawn. Er bod moddion meddygol yn aneffeithiol, perthynasau a chyfeillion yn methu gweinyddu y cysur arferol, eto y mae Iesu Grist yr un."
Adroddai rai gweithiau y pennill -
"0 Iesu mawr y Meddyg gwell,
Gobaith yr holl ynysoedd pell;
Dysg i mi seinio maes dy glod,
Mae digyfnewid wyt erioed."
Wrth feddwl am dano Ef, teimlai yn bur dawel, ac er yn bryderus, ceisiai roddi ei phwys arno. Gwellaodd beth ar ôl hyn, ac wedi rhai wythnosau teimlai awydd myned i'r wlad, i aros ychydíg gyda ei rhieni, gan dybied y buasai newid awyr a golygfeydd yn llesol iddi : eithr siomedig a fu hyny, a gwanhaodd yn gyflym.
Mehefin 25ain, gofynai y Brawd John R. Daniel iddi pa fodd yr oedd yn teimlo. Atebai, fod bywyd yn felus - y dymunai fyw am ychydig eto, er mwyn ei hanwyl briod a phlant bychain, ond ei bod yn dawel i ymostwng i ewyllys yr Arglwydd. Gofynwyd iddi, beth feddyliai am fynwes Iesu erbyn hyn? "Mynwes Iesu, mynwes lesu," atebai, "yr wyf yn gwybod beth yw bod yn mynwes Iesu cyn heddyw, ac yr wyf yn awr yn pwyso arni."
Meh. 26ain, dywedai fod ei sylfaen yn ddigon cadarn, pe byddai i'r byd hwn fyned ar dân. "Pan âf at Iesu, canaf iddo heb dewi mwy." Ymdrechai ganu, ond yr oedd yn rhy wan. Dywedai wrth ei phriod ei bod yn myned i'r nef, ac am iddo yntau frysio ar ei hol, yna adroddai,
"0 fryniau Caersalem ceir gweled," a.y.
Yn y prydnawn, mewn atebiad i'r Brawd T. Phillips, dywedai, "Nid lle i weithio yn y winllan yw gwely cysturiol, ond lle i fwyta o'i ffrwyth. Nid adeg cloddio am y Graig yw hi arnaf fi yn awr, ond pwyso arni yw fy ngwaith heddyw. Yr wyf yn teimlo fy mod yn cael fy nghynnal ganddi." Yr adnod olaf a ddywedodd yn ddealladwy oedd, "Canys ni a wyddom, os ein daiarol dŷ o'r babell hon a ddatodir, fod i ni adeilad gau Dduw, sef tŷ nid o waith llaw, tragywyddol yn y nefoedd."
0 mor werthfawr, cyn y 'stormydd,
Cael angor gobaith yn ei le;
Ein chwaer a gafoddlesu'n ffyddlon,
Pan yn yr Iorddonen gre';
Cadarn Graig i'w dal yn uchel,
Pan oedd ei chenlli' yn cryfhau,
Cartre'n mynwes ei Brawd hynaf,
Pan faluria'i phabell frau.
W. G. BEBB.