MRS. ELEANOR RICHARDS. LA CROSSE, WISCONSIN.

Eleanor Williams, priod Owen Prichard (1784-1844.)

Wedi bod yn byw yn Pen y Bryn, Aberdaron.

Priodi yn Eglwys Aberdaron, Mehefin 26ain, 1810. Eleanor Williams wedi ei geni ym mhlwyf Aberdaron ag Owen Prichard, o Ynys Enlli.

Ar ôl priodi, byw yn Dafarn Dowyrch, Rhoshirwaun.

Ymfudo i America yn 1827 ar y Marquis of Anglesey.

Owen Prichard. 43.
Ellin Williams. 37.
John Richards. 12. bedyddio 3/1/1815 - 12/12/1853.
Richard O Richards. 9. bedyddio 18/1/1818 - 10/4/1878.
Margaret Richards. 6.
Lowry Richards. 4.

Ffermio yn ardal Marcy ac yna yn Steuben.

Bu Owen Prichard farw ar 22/4/1844.

Yn 1852 symydodd Eleanor gyda thri o'i phlant i Swydd La Crosse yn nhalaith Wisconsin.

Bu John farw yn La Crosse yn 1853.

Bu Eleanor farw yn La Crosse 1866 a bu Richard O. Richards farw yn Salem, La Crosse ar 10fed o Ebrill 1878.

Glyn Roberts ~ Tachwedd 2021.


MRS. ELEANOR RICHARDS. LA CROSSE, WISCONSIN.

Yr oedd gwrthrych y nodiadau hyn yn enedigol o blwyf Aberdaron, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Ganwyd ein hanwyl chwaer mewn lle o'r enw Pen y Bryn, yn y flwyddyn 1789.

Ymunodd mewu cyfamod priodasol yn y flwyddyn 1812 gydag Owen Richards o'r un lle.

Ganwyd iddynt 4 o blant, un o ba rai sydd wedi ei rhagflaenu i'r byd tragwyddol. Cyfnewidiad pwysig arall yn ei bywyd oedd ei hymuniad â chrefydd, cymerodd hyn le tua'r flwyddyn 1825, a pharhaodd yn yr undeb hwnw ar hyd ei hoes, ni wadodd y ffydd ac ni pheidiodd a rhodio gyda'r Iesu nes yr aeth ato i fyw. Yn fuan ar ôl ei chysylltiad a chrefydd ymunodd ei phriod ag Eglwys Dduw, a chafodd yr hyfrydwch cyn marw o weled ei holl deulu yu arddel Mab Duw.

Ei hymfudiad hi a'i theulu i America. Cymerodd hyn le yn y flwyddyn 1827. Ar ôl dyfod i'r wlad hon, sefydlasant gyntaf yn mhlwyf Marcy, swydd Oneida. Symudasant oddiyno i blwyf Floyd, wedi hyny symudasant i blwyf Steuben. Oddiyno drachefn daethant i blwyf Remson, yno y bu farw ei phriod er ei mawr alar a'i cholled. Yn y flwyddyn 1852 symudodd gyda thri o'i phlant i dalaeth Wisconsin, swydd La Crosse, plwyf Berie.

Yma y bu farw ei mab John Richards yr hwn oedd yn ddyn ieuanc tra chrefyddol a hoffus gan bawb a'i hadwaenai. Yma y daeth yr ysgriíenydd i fwyaf o gydnabyddiaeth â hi ac y treuliodd lawer adeg ddedwydd gyda hi drwy wrandaw arni yn adrodd hanes ei thaith grefyddol ac yn son am hen bregethwyr Cymru, sef John Jones, Pwllbeli, Robert Ambrose, Christmas Evans ac eraill; ei phrif ddifyrwch oedd son am y mwynhad a deimlai gyda chrefydd yn ngwlad ei genedigaeth.

Yr oedd o gyfansoddiad cryf ac iachus, mwynhaodd iechyd da braidd ar hyd ei hoes. Yr oedd diffyg anadl yn ei blino fel yr oedd yn heneiddio a hyny yn benaf a fu yn angau iddi yn y diwedd. Ni bu ei chystudd yn faith, yr oedd yn llwyr foddlon i farw, dewisai fyned yn hytrach nac aros yn hwy yn myd y profedigaethau. Yr oedd ei ffydd yn gadarn yn addewidion Duw, a'i henaid a ymorphwysai yn ddiysgog ar aberth y groes, a thrwy hyny yr oedd ofn angau wedi myned ymaith, fel y bu farw mewn llawn sicrwydd gobaith o fywyd tragwyddol ar y 25ain o Fai diweddaf.

Claddwyd ei chorph ger llaw y tŷ ar y 27ain. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. Humphrey Parry, Fish Creek, ac Elder Parshall, West Salem.

Bendithied Duw ei theulu galarus â pharodrwydd erbyn yr un amgylchiad sydd yn ein haros oll.
Ei brawd galarus. W. Jones.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mai 1867 .