MRS. ANNE ROBERTS. GENESEE, WAUKESHA COUNTY, WISCONSIN.

Mawrth 31ain, 1866, bu farw Mrs. Anne Roberts, priod Mr. Griffith Roberts, diacon yn eglwys Jerusalem, ger Genesee Depot, Swydd Waukesha, Wisconsin.

Er ei bod wedi marw er's 12 mlynedd yn ôl, dyma y crybwylliad cyntaf a wnaed yn y cyhoedd am ei marwolaeth. Yr esgusawd mae Mr. Roberts yn ei roddi dros hyny ydyw mai dyna fyddai ei dewisiad hi pan yn fyw.

Un o Sir Gaernarfon oedd Mrs. Roberts. Cafodd ei geni yn mis Mehefin, 1792, mewn amaethdy o'r enw Bwlan, gerllaw tref Caernarfon, Gogledd Cymru. Yr oedd ei rhieni yn aelodau crefyddol gyda'r M. C. Ei henw yn ferch ieuanc oedd Anne Jones; ac enwau ei rhieni oedd- yut Morris a Catherine Jones.

Yn 1821, ymunodd mewn priodas gyda Mr. Roberts. Ymfudodd gyda'i phriod a'i dwy ferch i America yn 1842. Arosasant am beth amser yn Remsen, New York. Yn 1843 symudasant i Wisconsin. Gwnaethant eu cartref yn y gymydogaeth hon, ac yma y terfynodd hi ei gyrfa ar y ddaear.

Parhaodd ei hundeb priodasol â Mr. Roberts am 45 o flynyddoedd, a'i hundeb â'r eglwys gyda y M. C yn gyflawn aelod am 47 o flynyddoedd. Pan ddaeth gyntaf i Wisconsin, yr oedd y wlad yn newydd, ac nid oedd eto un deml wedi ei hadeiladu i arch Duw gartrefu ynddi. Byddai ei thy hi yn agored am rai blynyddoedd i gynal y gwasanaeth crefyddol ynddo, a bu hi yn dra gofalus am yr achos dan yr amgylchiadau anhwylus cyntaf. Yr oedd hi yn naturiol yn ddynes blaen, ddiragrith, a'r gair garw ganddi yn mlaenaf; ac yr oedd yn ddynes hynaws a charedig, yn neillduol pan welai gyfyngder. Yr oedd yn ofalus am leddfu, nid gofidiau ei phriod a'i phlant, ond ei chymydogion hefyd. "Beth sydd arnat ti eisiau heddyw ì" meddai wrth gymydog fyddai yn arfer ei blino yn aml ag eisiau benthyg rhywbeth, a chyda y gair yn parotoi i roddi yr hyn fyddai arno eisiau.

Yn ei theulu yr oedd yn gartrefol, diwyd, medrus a darbodus gyda byw. Ac ystyrid hi yn un o'r rhai mwyaf ffyddlawn i'r ordinhadau crefyddol, ac i ddwyn ei phlant i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Parhaodd hyd y diwedd, ac aeth i orphwys oddiwrth ei llafur yn hen ac yn gyflawn o ddyddiau, pan yn 74 mlwydd oed.

Gweinyddwyd y gwasanaeth crefyddol yn ei chladdedigaeth gan y diweddar Barch. Owen Hughes a'r ysgrifenydd.
DANIEL JENKINS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mai 1878.